Pro14: Cheetahs 21-10 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Shaun VenterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Shaun Venter oedd sgoriwr cais gyntaf y Cheetahs

Colli oedd hanes y Gleision yn Ne Affrica nos Sadwrn yn dilyn perfformiad siomedig a gwastraffus yn erbyn y Cheetahs.

Fe wnaeth y tîm cartref adeiladu mantais gynnar diolch i geisiau yn y 10 munud cyntaf gan Shaun Venter a Sibhale Maxwane.

Llwyddodd Maxwane i gipio'i ail cyn yr egwyl ar ôl rhedeg o hanner ei hun, gyda Tiaan Schoeman yn trosi pob un o'r tair cais.

Cic gosb gan Steven Shingler oedd unig bwyntiau'r Gleision yn yr hanner cyntaf, wrth iddyn nhw fethu â chymryd eu cyfleoedd.

Yr un oedd y stori yn yr ail hanner, nes i'r eilydd Samu Manoa daro cic i lawr a thirio'r bêl am gais cynta'r ymwelwyr gyda 15 munud i fynd.

Ond roedd eu diffyg disgyblaeth yn golygu na lwyddon nhw i fanteisio ar y cyfle i gau'r bwlch ymhellach, gan olygu eu bod nhw'n gadael Bloemfontein heb bwynt bonws hyd yn oed.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gleision bellach yn bedwerydd yn Adran A y Pro14, tra bod y Cheetahs yn parhau ar y gwaelod er gwaethaf eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor.