Cob yn 'torri record' ar ôl cael ei werthu am £45,000

  • Cyhoeddwyd
Tyrllawn Rolls-RoyceFfynhonnell y llun, Mili Lampard

Mae cob Cymreig wedi cael ei werthu am £45,000 - pris sydd, yn ôl yr arwerthwyr, yn torri record byd.

Mae Tyrllawn Rolls-Royce - stalwyn melyn (chestnut stallion) adran C sy'n hanu o Lyn Ebwy - eisoes wedi dod i'r brig mewn cystadleuthau yn y Sioe Frenhinol ac wedi bod yn rhan o sioe Horse of the Year eleni.

Cafodd ei brynu yn Arwerthiant y Cobiau Hydref yn Llanelwedd - sy'n cael ei ddisgrifio gan y trefnwyr fel y sêl fwyaf o'r math yn y byd.

Mae'r arwerthiant yn denu miloedd o bobl, gan gynnwys rhai o dramor, sydd â diddordeb arbennig mewn cobiau Cymreig.

Dywedodd yr arwethwyr, Brightwells, yng nghatalog y sêl mai "prin y mae cob o'r safon yma yn dod i'r farchnad agored".

'Waw ffactor'

Cafodd ei eni yn 2012, ac mae'r disgrifiad yn nodi iddo ddod i'r brig yn y Sioe Frenhinol pan oedd ond yn ebol.

Mae hefyd wedi cenhedlu eboliaid sydd wedi ennill gwobrau mewn sioeau o fri.

Dywed y catalog hefyd ei fod yn "stalwyn gwirioneddol amryddawn sydd yn wir yn meddu ar y cyfan", sydd â'r "waw ffactor a chryn bresenoldeb".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cob eisoes wedi dod i'r brig yn y Sioe Frenhinol

Wedi'r arwerthiant, dywedodd y cwmni fod "Tyrllawn Rolls-Royce wedi chwalu'r recordiau gwerthiant blaenorol, gan werthu am swm anferthol o £45,000".

Maen nhw wedi llongyfarch y gwerthwr a'r bridiwr, Justin Walters, a'r "prynwr lwcus iawn".

'Cynnwrf mawr'

Roedd yna gymeradwyaeth frwd pan werthwyd y cob drytaf yn hanes yn sêl, ac roedd Euros Llyr Morgan, Llysgennad Ifanc Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig, yno yn ffilmio'r achlysur.

"Roedd cynnwrf mawr ar faes y Sioe," meddai.

"O'dd pobl yn siarad bod pris sylweddol yn mynd i ddod i'r march yma ond ddim byd yn agos at £45,000.

"Mae amryw o ddrysa' a llwybra' gwahanol i'r ceffyl yma. Mae ca'l ceffyl i fynd i sioe Ceffyl y Flwyddyn yn ychwanegu cwpl o filoedd i bris gwerth y ceffyl beth bynnag.

"Dim ond chwe blwydd oed yw e. Mae wedi ennill lot mor ifanc, a mae 'dag e yrfa disglair iawn o'i flaen e."