Heddlu Gwent yn lansio cynllun i helpu disgyblion bregus

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ceisio codi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol

Mae Heddlu Gwent wedi lansio cynllun peilot sy'n rhoi gwybod i awdurdodau lleol ac ysgolion os ydyn nhw wedi gorfod ymateb i adroddiadau o brofiadau niweidiol neu drais domestig mewn cartref disgybl.

Y gobaith yw lleihau troseddu gan y plant yn y dyfodol, wrth i ffigyrau ddangos bod plant sy'n cael profiadau niweidiol yn fwy tebygol o droseddu.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACES) yn cynnwys camdrin corfforol, emosiynol neu rhywiol, a thyfu i fyny mewn cartref lle mae yna drais, salwch meddwl, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu broblemau troseddol.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Mike Richards o Heddlu Gwent fod y cynllun newydd yn galluogi ysgolion i gynnig cefnogaeth "briodol" ac "amserol" i ddisgyblion.

Disgrifiad,

Bydd y cynllun yn "gweddnewid" y gefnogaeth sydd ar gael i ddisgyblion yn ôl Huw Lloyd

Mae ymchwil yn dangos fod unigolion sydd wedi profi pedwar digwyddiad niweidiol neu fwy:

  • 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef o drais yn y flwyddyn diwethaf;

  • 15 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cyflawni trais ar berson arall yn y flwyddyn diwethaf;

  • 20 gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r carchar yn eu bywydau.

Mae arbenigwyr yn credu bod modd cyfeirio hyd at 50% o'r holl achosion o drais yn ôl at yr hyn sy'n digwydd yn ystod plentyndod.

Heddlu Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Operation Encompass, 'nôl ym mis Rhagfyr 2017.

Stori Catrina

Mae profiadau plentyndod Catrina wedi gadael eu hoel. Roedd ei thad yn gaeth i gyffuriau ac roedd trais yn rhan annatod o fywyd dyddiol.

Bellach yn ei 30au, mae Catrina wedi bod yn rhan o ddwy berthynas dreisgar, mae ei phlant wedi eu rhoi yn y system ofal ac mae hi wedi ceisio lladd ei hun.

"Rydw i dal i feddwl amdano bob dydd. Dyma yw achos hanner fy mhroblemau iechyd meddwl.

"Rydw i'n rhoi'r bai ar yr hyn es i drwyddo, a'r ffaith nad oedd neb yn ymwybodol o hynny, am y ffaith na orffennais i'r ysgol.

"Os fyddai'r ysgol wedi gwybod, os fyddai unrhyw un wedi gwybod, yna byddai modd gwneud rhywbeth am y peth.

"Mae'r pethau hyn yn eich siapio chi... golygodd fy mod i'n mynd fewn i berthnasau tebyg fy hun, rhai ohonynt yn waeth na'r hyn roeddwn i wedi ei brofi fel plentyn.

"Rhoddais i fy mhlant fy hun yn yr un sefyllfa... oherwydd ei fod yn normal."

Cafodd y cynllun cyntaf o'i fath ei lansio yn 2011 yng Nghernyw, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan heddluoedd ledled Lloegr.

Hoffai'r Uwcharolygydd Richards weld y cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y pum awdurdod lleol yn ardal Heddlu Gwent erbyn y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Richards mae angen i'r heddlu weithio'n agosach gydag athrawon

Mae ysgolion wedi croesawu'r syniad, gan ddweud eu bod nhw'n gallu adnabod pan fod plentyn wedi cael ysgytwad, ond ei bod hi'n llawer anoddach casglu manylion am yr hyn ddigwyddodd.

"Mae angen i ni weithio'n agosach gyda'n partneriaid, mae angen gweithio'n agosach gydag athrawon fel eu bod nhw'n derbyn y wybodaeth yn amserol," meddai'r Uwcharolygydd Richards.

"Nid oes rhaid iddyn nhw aros wythnosau iddo fynd drwy'r gwasanaethau cymdeithasol a dod drwy'r system, gallan nhw dderbyn y wybodaeth erbyn 09:00 y bore wedyn."

'Fel rhoi jig-so at ei gilydd'

Yn ôl Huw Lloyd, sy'n brifathro mewn ysgol yng Nglyn Ebwy, mae ceisio casglu'r holl wybodaeth am sefyllfa plentyn wedi bod fel "rhoi jig-so at ei gilydd".

"Nid oes un man ar hyn o bryd lle gallwn ni gasglu'r holl wybodaeth yma, ac mae hynny'n rhan o'r broblem gyda ACES a thrawma ieuenctid."

Ychwanegodd fod y drefn newydd am "weddnewid" y sefyllfa, ac am eu galluogi i gyflwyno nifer o strategaethau i gefnogi disgyblion sydd wedi dioddef.

Mae'r cynllun yma gan Heddlu Gwent yn un enghraifft o ymdrech ledled Cymru i geisio canfod a chefnogi plant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd hefyd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y pedwar heddlu, ysgolion, elusennau a'r gwasanaethau cymdeithasol.