Cynnig cyflog o £100,000 - ond methu denu digon o staff

  • Cyhoeddwyd
ffon symudol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni angen gweithwyr i ddatblygu meddalwedd ffonau symudol

Mae cwmni technoleg gwybodaeth o Gymru yn dweud eu bod nhw'n ei chael yn anodd ofnadwy i recriwtio staff - hyd yn oed wrth gynnig cyflog o £100,000 sy'n cymharu â chyflogau Llundain.

Mae MyPinPad yn chwilio am 100 o beirianwyr meddalwedd er mwyn cynorthwyo'r broses o ddatblygu meddalwedd newydd ar gyfer y sector ariannol.

Daw hyn yn sgil sylw gan weinidog digidol y DU fod yna alw mawr am weithwyr ymhlith cwmnïau yn y maes technoleg ddigidol.

Daeth llwyddiant cwmni MyPinPad wrth ddatblygu systemau sy'n gwneud hi'n haws a mwy diogel i wneud taliadau o ffôn symudol. Ond maen nhw'n ei chael yn anodd dod o hyd i staff newydd.

"Rydym yn talu cyflogau tebyg i gyflogau Llundain," meddai cyfarwyddwr masnachol y cwmni, Allan Syms.

"Ond dyw hynny dal ddim yn ddigon i ddenu pobl os nad ydynt yn credu fod yna ddigon o hyblygrwydd o ran datblygiad gyrfa."

Sector yn tyfu

Yn ôl Tech Nation - sefydliad sy'n cynrychioli'r sector technoleg gwybodaeth - canlyniad hyn yw nad yw nifer yn credu y byddant yn cael cyfle i ddatblygu gyrfa mewn dinas llai o faint.

Ond mae'r sector yn tyfu yn gynt yng Nghaerdydd na'r cyfartaledd twf drwy'r DU.

Mae Tech Nation yn amcangyfrif bod 4,640 yn gweithio mewn busnesau digidol yn ardal Caerdydd.

Maen nhw hefyd yn credu bod 21,508 o bobl sy'n defnyddio sgiliau digidol yn cael eu cyflogi mewn busnesau eraill, fel y maes yswiriant.

Cynigion dyddiol

Mae Gareth Livermore o Gaerffili yn un o'r gweithwyr sydd â sgiliau gwerthfawr yn y maes.

Dair blynedd yn ôl fe wnaeth o adael ei swydd yn y sector prynu a gwerthu nwyddau i ailhyfforddi ym maes meddalwedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe ymunodd â chwmni Admiral fel rhaglennydd yn gweithio yn yr adran technoleg gwybodaeth.

Dywedodd ei fod nawr yn derbyn ceisiadau cyson gan gwmnïau recriwtio sy'n ceisio ei ddenu i swydd newydd, yn aml iawn yn Llundain neu rywle arall yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Gareth Livermore
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gareth Livermore fod Cymru yn le delfrydol i weithio yn y maes ac i fagu teulu ifanc

"Yn ddyddiol ar LinkedIn, rydych yn cael negeseuon oddi wrth asiantaethau recriwtio," meddai.

"Maen nhw'n gweld pa sgiliau sydd gennych. Maen nhw'n cysylltu yn uniongyrchol ac yn ceisio eich perswadio drwy gynnig cyflog uwch."

Dywed Mr Livermore ei fod am aros yng Nghymru, er gwaetha'r holl gynigion.

Tra bod cyflogau yn dueddol o fod yn is yng Nghymru, mae'n dweud fod costau byw yma yn ffactor.

Dywedodd hefyd fod ei wreiddiau yng Nghymru a bod ardal Pont-y-pŵl "wedi ei amgylchynu â choedwigoedd" yn ddelfrydol i'w deulu.

Dywedodd nad yw hynny'n golygu na fydd yn cael ei berswadio ond ar hyn o bryd mae Cymru ac Admiral yn cynnig rhywbeth sy'n anodd ei brisio, sef teimlad o sicrwydd a bywyd gwell i'w deulu ifanc.

Wrth ymweld â Chymru yn ddiweddar dywedodd Margot James, Gweinidog y Diwydiannau Digidol a Chreadigol yn y DU, fod y sector technoleg yn tyfu ar raddfa ddwy a hanner gwaith yn gyflymach na gweddill yr economi.

Yn gyffredinol tra bod gweithwyr gyda sgiliau digidol yn cael eu talu llai yng Nghymru na gweddill y DU, mae'n ymddangos nad MyPinPad yw'r unig rai sy'n cynyddu cyflogau i geisio denu staff.

Yn ôl Rhys Lewis o gwmni recriwtio CPS Group, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain, mae cynnydd eleni yn y galw am weithwyr â sgiliau, ac mae hynny wedi arwain at gyflogau uwch.