Prifysgolion i dderbyn £1.2m ar gyfer y Sefydliad Codio

  • Cyhoeddwyd
Codio mewn ysgolionFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd buddsoddiad gwerth £1.2m i alluogi dwy brifysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn Sefydliad Codio'r DU yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe fydd yn rhan o'r cynllun, sydd â'r bwriad o "helpu creu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol".

Bydd y cyllid yn cynnwys hyd at £200,000 ar gyfer mentrau codio mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sydd yn gyfrifol am y buddsoddiad.

Mae'r buddsoddiad hwn yn ychwanegol i ymgyrch gwerth £1.3miliwn i gysylltu disgyblion yng Nghymru â maes codio a gyhoeddwyd y llynedd.

Y Sefydliad Codio

Cafodd y Sefydliad Codio ei greu gan Lywodraeth y DU i fod yn ganolbwynt gwladol ar gyfer gwella darpariaeth sgiliau digidol.

Mae'n cynnwys prifysgolion, busnesau ac arbenigwyr o faes y diwydiant, gan gynnwys IBM, BT a Microsoft.

Bydd y cyllid yn talu am gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig ar gyfer labordai Technocamps, sy'n darparu profiad ymarferol o ddefnyddio codio i athrawon a dysgwyr.

Bydd hefyd yn talu am swyddogion cydgysylltu ysgolion a busnesau, ac am sefydlu clybiau i ennyn diddordeb y gymuned mewn codio.

Beth yw codio?

  • Mae codau cyfrifiadurol yn set o reolau a chyfarwyddiadau, gan ddefnyddio geiriau a rhifau;

  • Pan rydych chi'n eu gosod nhw yn y drefn gywir, bydd yn dweud wrth y cyfrifiadur beth i'w wneud;

  • Codio yw beth sy'n ei gwneud hi'n bosib creu meddalwedd cyfrifiadurol, apiau a gwefannau;

  • Mae'r apiau ar eich ffôn, Facebook - hyd yn oed y dudalen we hon - wedi eu creu gan ddefnyddio cod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n "hanfodol" fod gan bobl ifanc sgiliau digidol o'r radd flaenaf yn ôl Kirsty Williams

'Rhan o'n bywyd bob dydd'

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams fydd yn cyhoeddi'r cyllid yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth.

Dywedodd Mrs Williams: "Mae cod ym mhobman ac mae'n rhan o'n bywyd bob dydd. Mae'n hanfodol cael sgiliau digidol o'r radd flaenaf ac mae'n hollbwysig bod y gallu a'r wybodaeth gan bobl ifanc i ddatblygu yn y maes hwn.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae'n bwysig hefyd y bydd yr arian yn eu galluogi nhw i wneud gwaith yn y gymuned, gan adeiladu ar y camau rydym wedi'u cymryd eisoes i sicrhau bod codio'n rhan o'r broses ddysgu yn ein hysgolion."

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC fod hwn yn "gyfle i ddatblygu gweithgarwch codio i fyfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau o ran sgiliau".