Apêl heddlu am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ym Mwcle
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 17:30 i adroddiadau fod car Vauxhall Astra glas wedi gwrthdaro gyda pherson ar Ffordd Gaer ym Mwcle.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes oedrannus ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint nos Fercher.
Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 17:30 i adroddiadau fod car Vauxhall Astra glas wedi taro person ar Ffordd Gaer ym Mwcle.
Fe gafodd y ddynes 87 mlwydd oed ei chludo i'r ysbyty yn Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd y cwnstabl Robert Williams o'r llu: "Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Gaer cyn 17:30, neu unrhyw un sydd gyda deunydd recordio fideo yn eu car."
Fe gafodd y ffordd ei ail agor am 20:30 ar ôl bod ar gau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.