Barbwyr yn y gogledd i dderbyn hyfforddiant iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Barbwyr yng ngogledd Cymru i dderbyn hyfforddiant iechyd meddwl

Fel rhan o weithgareddau i nodi diwrnod rhyngwladol y dynion ddydd Llun, mae 'na gynllun ar droed yn y gogledd i helpu barbwyr roi cymorth i gwsmeriaid sy'n trafod iechyd meddwl.

Hunanladdiad ydi achos marwolaethau'r rhan fwyaf o ddynion dan 45 oed ar draws y DU, ac mae gweithwyr iechyd yn credu bod dynion yn aml yn fwy tebygol o sôn am eu teimladau gyda'u barbwr na mynd at y meddyg.

Y gobaith yw y bydd barbwyr yn dysgu sut i adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl ymysg eu cwsmeriaid, yn ogystal rhoi arweiniad arfer gorau ar sut i wrando, rhoi cyngor defnyddiol, a chyfeirio at wasanaethau cefnogi.

Mae ystadegau yn dangos fod dynion dair gwaith yn fwy tebygol na merched i ladd eu hunain, gyda 75% o hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig yn ddynion.

Mae'r ymgyrch hyfforddi yn cael ei chefnogi gan ymgyrch Mi Fedraf, Awyr Las, Elusen y Gwasanaeth Iechyd, sy'n anelu at fynd i'r afael â stigma gan annog sgyrsiau mwy agored am iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Jason Parry yw perchennog siop Gwallt & Co yng Nghaernarfon

Mae Jason Parry yn farbwr yng Nghaernarfon. Mae o'n gweld bod ei gwsmeriaid yn rhannu'u teimladau tra'u bod yn y gadair.

"Dani'n byw mewn ardal yng Ngwynedd lle dani wedi ein dwyn i fyny efo agwedd stiff upper lip a chadw bob dim i mewn.

"A dwyt ti ddim yn ddewr os wyt ti'n agor allan a siarad am stwff. Mae'r bobl ddewr bob tro yn cadw bob dim i mewn."

Dywedodd Jason fod yn rhaid i'r agwedd yna newid oherwydd bod cymaint o bobl yn colli eu bywydau.

'Doedd o ddim yn fo ei hun'

"Un esiampl, oedd 'na berson sy'n dod yma. Person reit bubbly, outgoing, lot o hwyl i gael efo fo. Life and soul of the party os liciwch chi.

"Ddoth o un mis i gael ei cut fel oedd o fel arfer. A rhyw chwe wythnos wedyn ddoth o i mewn ac oni'n sylwi ei fod o'n dawel, a doedd o ddim yn fo ei hun.

"Ac yng nghanol y sgwrs ffeindiais i allan fod o newydd golli ei fam, ond diolch i Dduw, 'naeth o agor i fyny am y peth."

Gwella bywydau unigolion

Dywedodd Sam Watson, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:

"Y rhaglen hyfforddiant yw'r cam cyntaf tuag at adeiladau cymunedau gwydn sydd wedi'u grymuso i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb dros wneud newidiadau i wella bywydau unigolion.

"Mae hyn yn allweddol os ydym am leihau'r gyfradd farwolaeth drwy hunanladdiad, ac atal salwch meddwl."