Pryder teulu am safle i deithwyr yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
teulu groves
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Groves yn poeni am effaith y datblygiad arfaethedig ar ei merch, Izzy

Mae mam i ferch sydd ag anableddau dysgu dwys wedi dweud y byddai cynllun am safle i sipsiwn a theithwyr ger ei chartref yn "newid bywydau" ei theulu.

Mae Leanne Groves yn un o nifer o bobl yn ardal Llanelwy, Sir Ddinbych, sy'n anhapus gyda chynlluniau'r cyngor i leoli safle ger yr A55.

Dywedodd y byddai'r cynllun yn effeithio ar ei theulu'n fawr, gan fod y safleoedd sydd dan ystyriaeth yn eistedd bob ochr i'w chartref.

Yn ôl y cyngor sir, nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto, a dylai pobl leol roi eu barn fel rhan o'r ymgynghoriad.

'Angen distawrwydd'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i bob cyngor asesu'r anghenion am safleoedd i sipsiwn a theithwyr.

Daeth Cyngor Sir Ddinbych i'r canlyniad bod angen un safle parhaol i deulu sydd yn yr ardal ac un arall i deithwyr.

Bwriad y cyngor ydy lleoli dau safle ar fferm Green-gates ger Llanelwy, ond mae hynny wedi denu gwrthwynebiad gan bobl leol.

Ond yn ôl Ms Groves byddai safle o'r fath yn cael effaith andwyol ar ei theulu ac yn enwedig ei merch, Izzy, sy'n dioddef o syndrom Pitt-Hopkins.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r safle wedi ei leoli ar gaeau ger Llanelwy yn Sir Ddinbych

Dywedodd eu bod wedi prynu'r tŷ llai na blwyddyn a hanner yn ôl yn benodol "ar gyfer anghenion fy merch".

"Mae hi angen i bethau fod yn ddistaw - dyna pam wnaethon ni brynu'r tŷ yma - dyw hi ddim yn hoffi synau uchel," meddai.

"Mae hi hefyd yn eitha' simsan ar ei thraed, ac felly 'dyn ni wedi gosod offer arbennig er mwyn iddi allu bod tu allan.

"Dwi'n poeni'n fawr am unrhyw effaith y gallai synau uchel eu cael ar ei diogelwch, yn enwedig am nad ydy hi'n medru siarad."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Groves nad oedd y cyngor wedi bod yn ddigon agored gyda thrigolion lleol

Ychwanegodd ei bod hi'n "annheg" nad oedd y cyngor wedi trafod y cynlluniau gyda thrigolion yn gynt, o ystyried eu bod eisoes wedi paratoi cynlluniau ar gyfer y safle.

"Hoffwn i weld y cyngor yn ailystyried. Dwi ddim yn dweud nad oes angen safle i sipsiwn a theithwyr yn Sir Ddinbych, ond dwi ddim yn meddwl mai dyma'r safle cywir," meddai.

'Effaith niweidiol'

Mae safle'r gwersyll arfaethedig hefyd dafliad carreg o Barc Busnes Llanelwy, ac yn ôl John Owens, twrnai sydd â busnes yno, mae digon o lefydd eraill y gallai'r cyngor fod wedi eu hystyried.

"Doeddwn i methu credu'r peth - roedd o'n edrych fel safle mor anaddas ar gyfer y math yma o ddatblygiad," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid iddyn nhw gael llefydd, ond mae'n rhaid iddyn nhw ffeindio llefydd addas iddyn nhw ei wneud o.

"Ydy gardd gefn rhywun yn addas ar gyfer rhywbeth fel hyn? Na, dydy o ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Owens yn dwrnai sy'n gweithio yn y parc busnes cyfagos

Dywedodd Maer Llanelwy, Colin Hardy ei fod yntau a chyngor y ddinas yn gwrthwynebu'r cynlluniau "yn llwyr".

"Dydyn ni ddim yn credu bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn agored a thryloyw yn y broses hyd yn hyn," meddai.

"Dydyn ni ddim yn credu bod y gymuned yn ei chyfanrwydd wedi cael ei hystyried, a beth fyddai effaith datblygiad o'r fath ar drigolion a busnesau Llanelwy - rydyn ni'n credu y byddai effaith gwirioneddol niweidiol."

Pwysleisiodd aelod cabinet y cyngor dros dai a'r amgylchedd, Tony Thomas, "nad oes penderfyniad wedi ei wneud" hyd yn hyn.

Ychwanegodd y byddai'n annog unrhyw un sydd am roi eu barn i wneud hynny drwy wefan y cyngor neu yn un o'r digwyddiadau fydd yn cael eu trefnu.