Carcharu tri chyn-reolwr bwrdd iechyd am dwyllo'r GIG
- Cyhoeddwyd
Mae tri chyn-reolwr gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael dedfrydau o garchar am dwyllo dros £700,000 o'r GIG.
Roedd Mark Evill, 47, a Robert Howells, 65 - y ddau o ardal Cas-gwent - wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o dwyll yn sgil sefydlu cwmni ffug i sicrhau cytundebau gwaith adeiladu.
Ond fe gafwyd Michael Cope, 43 ac o Ferthyr Tudful, yn euog o dwyll gan reithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar ôl iddo yntau bledio'n ddieuog, gan honni nad oedd yn ymwybodol o'r cynllwyn.
Mae Evill wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar, pedair mlynedd oedd y gosb yn achos Howells, a thair blynedd o garchar oedd dedfryd Cope.
'Twyll ffiaidd'
Dywedodd y Barnwr Peter Heywood fod Evill wedi sefydlu cwmni George Morgan Ltd - enw ei gi - i sicrhau cytundebau gwaith y GIG i'w hun, cyn hudo unigolion eraill i gyflawni "twyll ffiaidd ar y gwasanaeth iechyd".
Roedd Evill, meddai, "â'r haerllugrwydd i greu cymeriadau ffug" mewn ymgais i guddio'i gysylltiad gyda'r cwmni, gan gynnwys defnyddio'r enwau Paul Hewson a David Evans mewn gohebiaeth - enwau go iawn y canwr Bono a'r gitarydd The Edge o'r grŵp U2.
Dywedodd y barnwr fod y diffynyddion wedi manteisio ar y cyfrifoldeb a'r ymddiriedaeth oedd ynghlwm â'u swyddi i gyflawni twyll difrifol yn erbyn gwasanaeth iechyd "sydd eisoes yn gwegian dan bwysau".
Clywodd y llys fod Evill yn cadw cyn lleieid o gofnodion ariannol yn rhinwedd ei swydd gydag asiantaeth hyd-braich fel rheolwr prosiect ar ran adran eiddo'r bwrdd, roedd yn caniatáu iddo greu "trywydd archwiliad o ddogfennau ffug".
Fe wariodd £300,000 o elw'r cwmni ar wyliau yn Dubai, eiddo yn ardal Aberdâr, sawl oriawr drud a cheir, ac ar gar gwerth £10,000 i Howells am gynorthwyo'r twyll.
Dywedodd yr erlyniad bod Cope wedi derbyn siec o £500 gan y cwmni am ei ran mewn rhoi cytundebau iddo.
Clywodd y llys bod gwaith y cwmni mor ddiffygiol nes bod y twyll wedi costio £1.4m i'r trethdalwr ei gywiro.
'Siomi pobl Powys'
Dywedodd llefarydd ar ran Uned Atal Twyll y GIG yng Nghymru bod rhywun anhysbys wedi ffonio'u llinell cofnodi honiadau o dwyll yn cyhuddo Evill a Howells o gamddefnyddio arian y GIG trwy dderbyn taliadau gan gontractwyr allanol.
Ychwanegodd: "Bydd yna ymdrechion nawr i gael yr arian yn ôl."
Dywedodd dirprwy reolwr yr uned, Cheryl Hill bod "twyllo GIG Cymru mewn unrhyw fodd yn hollol annerbyniol".
Roedd y gwasanaeth wedi ymddiried yn y diffynyddion, meddai, i sicrhau bod arian y bwrdd yn cael "ei ddefnyddio er budd cleifion" yn hytrach na'u hunain
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Carol Shillabeer: "Mae pobl Powys wedi cael eu siomi'n fawr gan droseddau'r unigolion yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018