£14,000 o elw trên ysbrydion mewn sêff yn cael ei ddwyn

  • Cyhoeddwyd
tren Rheilffordd Pont-y-Pŵl a BlaenafonFfynhonnell y llun, Pontypool and Blaenavon Railway
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau Calan Gaeaf Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon wedi profi'n boblogaidd iawn dros y blynyddoedd

Cafodd sêff yn cynnwys miloedd o bunnoedd ei ddwyn o reilffordd sy'n cael ei rhedeg fel elusen.

Fe wnaeth gwirfoddolwyr Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon ddarganfod bod rhywun wedi torri mewn i'r orsaf drenau fore Iau, a gweld bod y sêff â'i gynnwys wedi ei ddwyn.

Mae'r rheilffordd yn amcangyfrif bod y lladron wedi mynd â thua £14,000 o elw digwyddiadau Calan Gaeaf.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i'r achos ac mae'r gymuned leol wedi cyfrannu arian ers i'r rheilffordd gyhoeddi'r lladrad ar eu cyfryngau cymdeithasol.

'Torri calon'

Cyhoeddodd y rheilffordd fanylion y lladrad fore Iau, gan ddweud eu bod "wedi torri calon" fod rhywun wedi torri mewn i'r orsaf.

Yn ôl cyfarwyddwr y rheilffordd, Alex Hinshelwood, roedd "dros 4,000 o bobl" wedi mynychu digwyddiadau Calan Gaeaf y rheilffordd dros bedair noson, felly roedd tipyn o arian parod ar y safle.

Dywedodd Mr Hinshelwood bod yr elw yn y sêff yn barod ar gyfer cael ei fancio fore Iau.

"Pan aeth ein gwirfoddolwyr i glirio'r sêff, sylwon nhw fod rhywun wedi torri mewn i'r adeilad," meddai.

"Nid dim ond cynnwys y sêff oedd wedi mynd, ond y sêff ei hun."

Mae yna ddelweddau camerâu cylch cyfyng ym meddiant yr heddlu ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Pontypool and Blaenavon Railway
Disgrifiad o’r llun,

Bu difrod i ddrws yr orsaf wrth i'r lladron dorri mewn i ddwyn y sêff

Yn y cyfamser, mae'r gymuned leol wedi codi dros £4,000 ers i griw'r rheilffordd gyhoeddi'r lladrad ar eu gwefannau cymdeithasol.

Dywedodd Mr Hinshelwood fod yr holl wirfoddolwyr yn "methu credu" caredigrwydd y rhoddion daeth i law.

"Mae'r rheilffordd yn elusen. Rydym wedi bod yn ei rhedeg fel elusen ym Mlaenafon ers 1983.

"Mae'r gwirfoddolwyr yn rhoi cryn dipyn o ymdrech i bob dim ni'n ei wneud, nid dim ond y digwyddiadau Calan Gaeaf."

Apêl am wybodaeth

Cadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn adroddiad o ladrad yn yr Orsaf Drenau, Llynnoedd y Garn ym Mlaenafan toc wedi 10:00 fore Iau.

"Rhywbryd rhwng 22:00 ar 31 Hydref a 9:45 ar 1 Tachwedd, cafwyd mynediad drwy rym a chafodd sêff liw arian ei ddwyn.

"Roedd y sêff wedi'i folltio i'r wal ac roedd yn cynnwys rhwng £12,000 i £14,000."

Mae'r heddlu yn apelio at unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu, drwy ffonio 101 neu rif Crimestoppers.