Caerdydd i roi teyrngedau wedi trychineb CPD Caerlŷr
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock wedi dweud fod "pêl-droed yn amherthnasol mewn amseroedd fel hyn" wrth i Gaerdydd baratoi i groesawu Caerlŷr ddydd Sadwrn.
Dyma fydd gêm gyntaf Caerlŷr ers y trychineb ble bu farw perchennog y clwb, Vichai Srivaddhanaprabha, ynghyd â phedwar person arall mewn damwain hofrennydd.
Wrth siarad â'r wasg, dywedodd Warnock nad oedd eisiau i'r gêm i fynd yn ei blaen yn wreiddiol, ond ei fod bellach yn gwbl gefnogol o'r penderfyniad.
"Dydy pethau heb fod yn hawdd yn ystod yr wythnos," meddai.
'Vichai eisiau hyn'
Ychwanegodd: "Yn wreiddiol doeddwn ddim eisiau'r gêm fynd yn ei blaen, dydd Llun a dydd Mawrth, roedd hi rhy emosiynol.
"Ond dwi'n deall nawr ble maen nhw arni (Caerlŷr) a dwi'n credu bod y penderfyniad i barhau yn un da, mae'n rhaid symud ymlaen a cheisio mynd nôl i normalrwydd cyn gynted â phosibl.
"Dwi'n credu y buasai Vichai eisiau hyn hefyd, roedd eisiau'r bechgyn chwarae pêl-droed. Dwi'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i bawb," meddai.
Fe ddigwyddodd y trychineb yn dilyn gêm gartref Caerlŷr yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn, 27 Hydref.
Wrth adael y stadiwm yn ei ddull arferol, fe blymiodd yr hofrennydd yr oedd Mr Srivaddhanaprabha yn teithio arno i'r llawr y tu ôl i stadiwm King Power yng Nghaerlŷr.
Mae rheolwr Caerlŷr, Claude Puel eisoes wedi dweud nad yw'r canlyniad yn erbyn Caerdydd yn bwysig.
'Teyrngedau'
Yn dilyn ymgynghori rhwng teulu Mr Srivaddhanaprabha a'r chwaraewyr, fe benderfynodd y clwb i fwrw 'mlaen gyda'r gêm yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae Caerdydd wedi cadarnhau bydd teyrngedau yn ogystal â munud o dawelwch.
Ychwanegodd Warnock: "Fe fydd yna deyrngedau. Mae ein Cadeirydd ni eisiau roi teyrnged ar ran Vincent (Tan, perchennog Caerdydd) a phawb yn y clwb.
"Rhywsut wedyn, mae rhaid i'r ddau dîm fynd ati i chwarae pêl-droed. Mae'n gêm bwysig i ni ac i Gaerlŷr, ond gêm o bêl-droed yw hi.
"Mae'n teimlo ei bod hi'n amherthnasol trafod y gêm i gymharu â phethau mwy o lawer sydd wedi digwydd yr wythnos yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018