Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Gateshead
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam bellach ar frig tabl y Gynghrair Genedlaethol wedi buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Gateshead.
Y tîm cartref oedd ar y blaen yn yr 20 munud cyntaf wedi i Paul Rutherford redeg i mewn i'r cwrt cosbi i sgorio, a dyblu wnaeth y sgôr diolch i Brad Walker.
Er i Luke Armstrong gael un yn ôl i Gateshead, sicrhaodd gôl Rekeil Pyke y fuddugoliaeth.
Dywedodd rheolwr Wrecsam, Sam Ricketts: "Roedd wir yn dangos beth mae'r tîm yn gallu gwneud. Mae'n gam mawr yn y cyfeiriad iawn."