Pro 14: Connacht 33-12 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Darragh LeaderFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Darragh Leader sgoriodd ail gais Connacht

Colli fu hanes y Dreigiau oddi cartref yn erbyn Connacht ym mhencampwriaeth y Guinness Pro 14.

Aeth Connacht ati i sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr hanner cyntaf diolch i geisiau James Cannon, Darragh Leader, Colby Fainga'a a Tom McCartney, gan adael y Dreigiau yn ddi-sgôr tan yr ail hanner.

Cosbwyd y Dreigiau am fethu nifer o gyfleon - gyda methiant Taine Basham i ddod o hyd i Dafydd Howells pan oedd cyfle am gais yn edrych yn debygol yn enghraifft nodedig.

Er gwaetha' dwy gais gan Hallam Amos a Basham maes o law a chiciau Jason Tovey, nid oedd yn ddigon i gau'r bwlch yn erbyn y tîm cartref.