Tystiolaeth Oes yr Iâ'n cael ei ddinistrio ar draeth Lleiniog
- Cyhoeddwyd
![Cerrig traeth Lleiniog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/44F6/production/_104045671_limestone.jpg)
Yn ôl yr honiadau, symudodd gweithwyr Cyngor Môn y cerrig sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Iâ
Mae safle o ddiddordeb gwyddonol "wirioneddol bwysig" wedi cael ei "ddinistrio" gan weithwyr cyngor ar draeth ym Môn, yn ôl yr honiadau.
Cafodd creigiau anferth sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Iâ eu symud wrth i waith atal llifogydd gael ei wneud ar draeth Lleiniog yn Llangoed.
Honnodd trigolion lleol bod gwelyau mawn ôl-rewlifol wedi cael eu difrodi gan y gwaith.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud eu bod yn ymchwilio i'r mater, ond dywedodd Cyngor Môn fod ganddynt drwydded ar gyfer y gwaith.
Yn ôl Gareth Phillips, aelod o Grŵp Ffrindiau Cymuned Llangoed: "Mae'n un o'r pethau mwya' twp a thrasig dwi erioed wedi gweld yn cael ei wneud ym Mhrydain."
![gwaith ar draeth Lleiniog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17D12/production/_104045579_f5a8cd49-1cfc-4b0f-a058-990b54913d91.jpg)
Roedd y cyngor yn gwneud gwaith atal llifogydd ger afon ar y traeth
Roedd cerrig mawrion yn frith dros draeth Lleiniog, sy'n rhedeg ar hyd culfor Menai.
Dywedodd CNC bod y safle'n cynnig "y tystiolaeth egluraf yng ngogledd Cymru o gyrch ia o Fôr yr Iwerydd yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd", sef yr Oes yr Iâ diweddaraf.
Roedd gan weithwyr Cyngor Môn drwydded i wneud gwaith i atal afon fach gerllaw rhag gorlifo dros ffordd gyfagos.
![Cerrig traeth Lleiniog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6BA2/production/_104045572_boulders.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru a CNC yn bwriadu ymchwilio i adroddiadau'r trigolion lleol
Ond "symudodd y gweithwyr 200 llaeth lawr y traeth a chodi'r cerrig o ddiddordeb gwyddonol", yn ôl Mr Phillips.
"Doedd ganddynt ddim rheswm na thrwydded i fod yno," meddai.
"Mae'r gymuned leol yn torri'u calonnau am hyn."
Cadarnhaodd Euros Jones, rheolwr gweithrediadau'r gogledd ar ran CNC bod Llywodraeth Cymru a CNC yn cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau o ddifrod i'r safle, ac yn edrych i weld os oedd y gwaith yn torri amodau'r drwydded.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Roedd gennym Drwydded Forwrol gan CNC i gwblhau'r gwaith dan sylw. Roeddem hefyd wedi cadarnhau gyda Gwasanaeth Gynllunio Archeoleg Gwynedd nad oeddem yn gweithio yn yr ardal warchodedig sydd wedi ei farcio ar eu mapiau nhw."