Sŵn ffrwydro yn ystod lladrad mewn siop yn Neganwy
- Cyhoeddwyd

Cafodd difrod sylweddol ei achosi i beiriant arian parod y siop yn ystod y lladrad
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn siop Co-op yn Neganwy yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad toc wedi 04:00 bore Sul a darganfod bod y peiriant arian parod wedi ei ddwyn.
Roedd sŵn ffrwydro wedi cael ei glywed yn ystod y nos ac mae yna ddifrod sylweddol i ffenest flaen a thu fewn y siop.
Dywedodd Sarjant Dean Jones o Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad i gysylltu drwy ffonio 101."
