Pro14: Gleision Caerdydd 37-0 Zebre
- Cyhoeddwyd

Methiant bu cic olaf Gethin Jenkins, ond cafodd gymeradwyaeth wresog ar ddiwedd gem olaf ei yrfa
Colli'n llwyr fu hanes Zebre wrth herio Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau.
Carlamodd y tîm cartref i gipio'r fuddugoliaeth gyda phum cais - dwy yr un gan Tom Williams a Rey Lee-Lo ac un gan Kirby Myhill - a chicio medrus gan Steven Shingler.
Mae'r fuddugoliaeth pwynt bonws yn golygu bod y Gleision yn aros yn y pedwerydd safle yn Adran A y Guinness Pro14.
Hon oedd gêm olaf Gethin Jenkins, wedi iddo gyhoeddi ddydd Mercher ei fod yn ymddeol, a derbyniodd gymeradwyaeth gynnes ar ddiwedd y gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018