Cyfraddau genedigaeth morloi Sir Benfro yn 'galonogol'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y morloi bach sydd wedi eu geni yn Sir Benfro eleni yn "galonogol", flwyddyn ar ôl i dros 60% o forloi ifanc gael eu lladd mewn stormydd.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru fod stormydd Ophelia a Brian wedi "creu dinistr" ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm llynedd, ac roedd pryder am yr effaith bosib ar fridio'r morloi.
Ond eleni mae'r boblogaeth wedi cynyddu, yn rhannol gan nad yw'r tywydd stormus wedi cyd-daro ag unrhyw lanw sy'n anarferol o uchel.
Dywedodd swyddog o'r ymddiriedolaeth fod y niferoedd yn "edrych yn dda".
Mae gan ardal Sir Benfro rai o'r grwpiau mwyaf o forloi llwyd yn y byd, ac mae Sgomer hefyd yn leoliad bridio ar eu cyfer.
Yn ôl adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, mae cyfraddau genedigaeth y morloi yn 2018 ymysg yr uchaf ar gofnod.
Mae hynny, yn ogystal â chyfraddau goroesi uchel a'r ffaith y gall mwy fyth cael eu geni, yn golygu bod y sefyllfa yn edrych "yn dda iawn" yn ôl Mark Burton o CNC.
"Eleni roedden ni'n gobeithio gweld os oedd effaith wedi bod ar boblogaeth y morloi, ond mae niferoedd yr oedolion a'r babanod yn edrych yn galonogol iawn," meddai.
Dywedodd Ed Stubbings, warden ar Ynys Sgomer, nad oedden nhw wedi gorffen eu cyfrifon, ond bod y nifer o forloi bach sydd wedi eu geni eleni yn un o'r uchaf ar gofnod, a bod lefelau marwolaeth hefyd wedi bod yn isel iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017