'Braint a dyletswydd' rhannu hanes milwr rhif 155380

  • Cyhoeddwyd
Haydn Morris a'r llythyr

Mae'n "fraint" ac yn "ddyletswydd" rhannu hanesion perthnasau a fu farw yn y Rhyfeloedd Byd, yn ôl nai milwr o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei saethu'n farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr.

Cafodd Haydn Davies ei enwi ar ôl ei ewythr, Haydn Gwion Morris, a fu farw yn 23 mlwydd oed yn Ffrainc ar 6 Mai 1917.

Brawd Haydn Morris, David John Morris, wnaeth ei ddarganfod yn farw mewn ffos - roedd y ddau wedi ymuno â'r Peirianwyr Brenhinol ar yr un pryd ddechrau 1916, gan adael eu cartref yn Hebron a swyddi yn y diwydiant glo.

Mae Mr Davies yn bwriadu ymweld â'r fynwent lle mae ei gorff wedi ei gladdu - a threfnu arbenigwr i atgyweirio'r llythyr oedd ym mhoced ei ewythr pan fu farw, ac sy'n llawn tyllau bwledi.

Disgrifiad,

Haydn Davies sy'n adrodd hanes ei ewythr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Dyna oedd y llythyr olaf i'r ddau frawd ei dderbyn gan eu chwaer, Elsie Davies - mam-gu Mr Davies.

"Ar y llythyr mae'r baw yn y trenches ar y pryd," meddai. "Wrth gwrs, mae'r marcie lle o'dd y bwledi a'r shot wedi taro fe. A tu fewn roedd y neges ola' fe o'i chwaer.

"Mae'n dyddio nôl i 1914 - reit ar gychwyn y rhyfel... pan gadodd e i fynd i'r rhyfel. Oedd e yn ei boced e."

Gyda'r llythyr mewn cyflwr mor frau, dydy Mr Davies, sy'n byw yng Ngwynedd ac yn gyn bennaeth Ysgol Gyfun Llangefni, heb ei agor er mwyn darllen y cynnwys ers blynyddoedd - tan yr wythnos hon.

Ffynhonnell y llun, BBC / Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Tynnwyd y llun yma o Haydn Morris - milwr rhif 155380 - yn Chatham yn 1916

"Wi'n cofio darllen e 25 mlynedd yn ôl a'r neges ynddo fo [oedd] cymaint oedd ei chwaer yn caru y ddau frawd, a gobeithio bo' nhw'n sâff ac yn ddiogel.

"Ond hefyd llwyth o newyddion o beth o'dd yn digwydd yn y pentre' yn ei absenoldeb - bod bywyd yn mynd ymlaen yn ôl yn Hebron.

"O'dd dim syniad 'da'r chwaer - mam-gu fi - pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

O'dd hi'n sgrifennu llythyr am newyddion fel byddech chi'n sgwennu i rywun ar eich gwylia' - ond wrth gwrs 'edrych ymlaen i gweld chi dod nôl'.

"O'n nhw'n meddwl bo' nhw yna am ddwy flynedd a dod adre' yn gynnar ar unrhyw amser ond wrth gwrs... nath hi ddim gweld Haydn eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llythyr yn dangos ôl y bwledi a laddodd Haydn Morris

Mae'r llythyr ymhlith casgliad o drugareddau a ddaeth i feddiant Mr Davies yn 1972 pan wnaeth iechyd ei fam-gu, oedd erbyn hynny yn byw yn Aberteifi, ddechrau dirywio.

Mae'n cynnwys lluniau o Haydn Morris yn ei ddillad milwr o 1916, ei fan claddu ym Mynwent Brydeinig Baulencourt yng ngogledd Ffrainc, a phlac efydd oedd yn cael ei roi i deulu pob milwr Prydeinig a fu farw ar faes y gad.

Hefyd mae ganddo lythyr gan David at ei chwaer a ysgrifennodd o long ar ei ffordd yn ôl i Ffrainc wedi triniaeth at anaf a niwmonia mewn ysbyty yn Southampton.

Yn y llythyr roedd yn trafod rhoi broetsh yn anrheg "er cof am eu brawd".

'Sioc'

Wedi'r rhyfel fe aeth yntau ymlaen i weithio fel athro Addysg Gorfforol yn Ystradgynlais a bu farw yn y 1960au.

"Ges i sioc pan welish i nhw, ond wrth fynd yn hynach ddois i sylweddoli pwysigrwydd y digwyddiadau a'u heffaith.

"Bob blwyddyn mae'r teimlad o falchder oherwydd cyfraniad y teulu yn mynd yn gryfach - dwi'n teimlo bod dyletswydd i rannu'r storïau 'ma - mae pobl angen gwybod y storïau 'ma."

Mae Mr Davies a'i frawd Phillip bellach yn bwriadu teithio i Ffrainc i weld lle yn union y gafodd Haydn Morris ei gladdu.

Dywed ei fod yn "teimlo'n agos iawn i'r seremoni" Sul y Cofio oherwydd profiadau ei berthnasau, a bydd yn ei gwylio "ar y teledu, ar ben fy hun yn pwyso a mesur".