Dyn wedi ei ladd gan goeden yn disgyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lanbedr brynhawn Iau
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan goeden oedd wedi disgyn yng Ngwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yng Nglyn Artro, Llanbedr am oddeutu 15:15 brynhawn Iau.
Cafodd criw o ddiffoddwyr o Harlech ei anfon i'r safle.
Aeth dau ambiwlans, dau barafeddyg ac ambiwlans awyr yno hefyd, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.