Oedi'n debygol i deithwyr wrth i Gymru herio Awstralia

  • Cyhoeddwyd
PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae oedi'n debygol i gefnogwyr rygbi wrth i Gymru chwarae Awstralia mewn gêm brawf yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Bydd y gêm yn dechrau am 17:20 gyda giatiau'r stadiwm yn agor am 14:20.

Mae cefnogwyr yn cael eu cynghori i adael digon o amser er mwyn teithio ac i osgoi dod a bagiau mawr i'r safle, gan y bydd bagiau'n cael eu chwilio.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae disgwyl i drenau fod yn brysur trwy gydol y dydd, a bydd systemau mewn lle er mwyn cwtogi ar yr oedi i deithwyr.

Mae rhybudd i deithwyr y gall gwaith cynnal a chadw ar reilffyrdd yng ngorllewin Lloegr effeithio ar rai teithwyr sy'n dod o gyfeiriad Bryste a Chaerfaddon. Mae gwasanaethau bws wedi eu trefnu yn eu lle.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i gadarnhau eu trefniadau drwy wefan Traveline, dolen allanol.

Yn ôl trefnwyr bydd nifer o brif ffyrdd y ddinas ynghau rhwng 13:45 a 20:15.

Dyma rhai o'r prif ffyrdd fydd yn cael eu heffeithio:

  • Ffordd y Brenin;

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen;

  • Stryd Tudor;

  • Heol Saunders;

  • Heol y Tollty.

Am restr gyflawn o'r strydoedd fydd yn cael eu heffeithio ewch i wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.