Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-1 Brighton
- Cyhoeddwyd
Wedi dechreuad simsan, llwyddodd Caerdydd i ennill yn haeddiannol o 2-1 yn erbyn 10 dyn Brighton ddydd Sadwrn.
Roedd Caerdydd ar ei hol hi wedi dim ond chwe munud o'r gêm.
Cic rydd yn cael ei chroesi fewn i gwrt cosbi Caerdydd a Lewis Dunk oedd ar y postyn pellaf i benio'r ymwelwyr ar y blaen.
Gydag ychydig o lwc llwyddodd Caerdydd i unioni'r sgôr wedi 28 munud.
Fe gymerodd croesiad Kadeem Harris gyffyrddiad oddi ar Bong a Callum Patterson oedd yn y fan ar lle i benio'r bel i'r rhwyd o chwe llath.
Yn dilyn y gôl roedd Caerdydd yn dechrau rheoli'r meddiant.
Deuddeg munud cyn yr egwyl roedd Brighton lawr i ddeg dyn, fe lithrodd Dale Stephens yn hwyr fewn i dacl ar Greg Cunningham chael cerdyn coch gan y dyfarnwr.
Fu bron i Gaerdydd fynd ar y blaen wedi 58 munud. Ergyd wych o du allan y cwrt gan Kadeem Harris ond fe darodd y trawst.
Roedd Caerdydd yn llwyr reoli'r ail hanner, ond doedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw ffordd heibio amddiffyn Brighton.
Gyda chyfle prin yn ar ôl 82 munud, roedd yn rhaid i Etheridge yn y gôl i Gaerdydd wneud arbediad gwych o ergyd bwerus gan Izquierdo o du allan y cwrt cosbi.
Ar ôl pwyso a phwyso daeth haeddiant Caerdydd gyda gôl gyda dim ond munud o amser arferol i'w chwarae.
Ergyd acrobatiaid Sol Bamba yn taro'r postyn, wedyn ergyd Patterson yn cael ei chlirio oddi ar y llinell ond roedd Bamba yno i daro'r bel i gefn y rhwyd cyn i amddiffynwyr Brighton allu ymateb.
Ar ei ganfed gem fel rheolwr yr Adar Gleision, roedd Neil Warnock yn dathlu buddugoliaeth haeddiannol ar ochr y cae, gyda'r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd o'r safleoedd cwymp.