Datrys dirgelwch y cyfaill o'r Rhyfel Byd Cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae perthnasau i ddau ffrind o'r gogledd fu'n gwasanaethu hefo'i gilydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cyfarfod am y tro cyntaf i hel atgofion am eu hanwyliad.
Fe glywodd Eluned Rowlands o Benygroes ger Caernarfon sgwrs Kathryn Robyns ar raglen y Post Cyntaf ar 7 Tachwedd wrth drafod llun eiconig o filwyr ar faes y gad yn y Rhyfel Bydd Cyntaf.
Roedd hi'n sôn am ei thaid, William Henry Ensor o Falltraeth, Ynys Môn, oedd yn gludwr stretsiars yn Passchendaele.
Cyfeiriodd hi hefyd at ffrind iddo, Gruff Jones o Benygroes, oedd yn gwneud yr un gwaith, gan ofyn a oedd gan unrhyw un wybodaeth amdano.
Pan glywodd Eluned y sgwrs, fe gysylltodd hi gyda'r rhaglen ar ôl canfod dogfennau mewn bocs yr oedd ei thaid wedi ei gadw yn olrhain hanes ei frawd hŷn, Gruff.
Doedd Kathryn ac Eluned ddim wedi cwrdd o'r blaen, a bu'r ddwy'n dweud yr hanes wrth y Post Cyntaf.
"Wedi i mi glywed yr enw Ensor, mi es i chwilio mewn bocs oedd gan fy nhaid, gan mai Gruff oedd ei frawd o," eglurodd Eluned.
"Nes i 'rioed gyfarfod fy ewythr, ond mae hi'n dda bod fy nhaid wedi cadw'r holl lythyrau yma gan ei frawd hynaf."
"Mae'n brofiad od, fel atgyfodi rhywbeth rydw i wedi ei glywed o'r gorffennol pell," meddai Kathryn Robyns.
Mae 'na luniau o William Henry Ensor a Gruffudd John Jones yng nghwmni ei gilydd, ond doedden nhw ddim yn aelodau o'r un tîm, fel yr eglura Eluned Rowlands:
"Roedd Gruffudd yn heddychwr ac yn y Royal Army Medical Corp er mwyn osgoi ymladd. Roedd ganddo 'chydig o gefndir meddygol.
"Dwi ddim yn siŵr os oedan nhw yn gweithio efo'i gilydd. Dwi'n meddwl bod William efo'r Field Ambulance hefyd ond yn gweithio efo aelodau eraill o'r un gatrawd."
Ond tra daeth William adref yn ddiogel ar ddiwedd y rhyfel, cafodd Gruff ei ladd ar 15 Medi 1918 yn ardal y Somme.
Dangosodd Eluned lythyr o gydymdeimlad roedd Nain Kathryn wedi ei anfon at deulu ei hen ewythr.
"Mae'n dod a deigryn i fy llygaid i" meddai Kathryn wrth weld y llythyr am y tro cyntaf.
"Mae'n od gweld 'sgrifen Nain gan mai Taid fyddai'n 'sgwennu llythyrau bob amser."
"Dyma sgwennodd hi: "Bu'r ddau yn gyfeillion mynwesol am yn agos i bedair blynedd... pa anawsterau bynnag y byddai ef ynddo, byddai Gruff yn ffyddlon i'w gynorthwyo."
"Mae'n dangos yn glir pa mor anobeithiol oedd y rhyfel. Mae'n amlwg eu bod nhw i gyd yn diodde'..."
Mae modd gwrando yn ôl ar y sgwrs ar wefan y Post Cyntaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018