Y Rhyfel Mawr: Llun eiconig o Gymro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hanes un o luniau mwyaf eiconig y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r llun yn un eiconig. Ers tro mae copi anferth o'r llun yn cael ei arddangos yn yr Imperial War Museum yn Llundain.

Cafodd y llun ei dynnu gan Lieutenant John Warwick Brooke, oedd yn ffotograffydd ar ran byddin Prydain yn ystod trydedd frwydr Passchendaele ger Ypres yng Ngwlad Belg.

Cafodd ei dynnu ar 1 Awst 1917 - ddiwrnod yn unig wedi i Hedd Wyn farw yn yr un frwydr.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg y llynedd, dim ond un o'r dynion yn y llun ddaeth adre'n fyw.

Ond mae rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru wedi darganfod bod un arall wedi goroesi'r rhyfel - sef William Henry Ensor o Falltraeth ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Bu ei wyres, Kathryn Robyns - sy'n gyn-athrawes yn Ysgol Uwchradd Bodedern - ar y rhaglen fore Mercher yn sôn mwy am yr hanes.

"Doeddwn i heb sylweddol tan ychydig yn ôl ei fod o'n llun enwog tan i mi weld llyfr yn yr ysgol am y Rhyfel Mawr," meddai.

"Nes i sylweddoli'n syth mai llun o 'nhaid oedd o wrth gwrs.

"Roedd adroddiad papur newydd y llynedd yn dweud mai'r dyn yn y blaen sy'n edrych yn syth at y camera oedd yr unig un i oroesi, ond roeddwn i'n gwybod yn wahanol."

Aeth William Henry Ensor i'r rhyfel yn Ionawr 1915.

Roedd yn arolygwr tir o Falltraeth ar Ynys Môn, ond yn dilyn cyfnod byr o hyfforddiant cymorth cyntaf ym Mhrestatyn, cafodd ei anfon i faes y gad.

Disgrifiad o’r llun,

Kathryn Robyns yn trafod y llun gyda Dylan Jones o'r Post Cyntaf

Roedd yn 31 oed, ac yn ôl Kathryn Robyns: "Roedd o wastad yn d'eud fod o ddim isho mynd i ryfel i ladd, ond y ffordd orau iddo fo helpu'r achos oedd mynd fel cludwr stretsieri.

"Doedd o ddim yn siarad llawer am y rhyfel, ond mi ydw i'n ei gofio fo adeg Sul y Cofio... fydda fo isho cwmpeini bryd hynny, ac o'n i'n eistedd hefo fo sawl tro.

"Roedd o'n crio drwy'r rhaglen (Seremoni'r Cofio) yn enwedig pan oedd y pabi coch yn disgyn.

"Dwi'n cofio fo'n sôn mai'r peth oedd yn ei daro fo fwyaf oedd colli ffrindiau.

"Un enw dwi'n gofio oedd Gruff Penygroes... dwi'm yn gw'bod os oes un o'r gwrandawyr yn gwybod pwy fasa fo."

Ffynhonnell y llun, Imperial War Museum
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd technegau digidol eu defnyddio i ychwanegu lliw at y llun du a gwyn gwreiddiol yn ddiweddar, a dyna'r fersiwn sydd yn yr amgueddfa yn Llundain. William Henry Ensor yw'r pedwerydd o'r chwith yng nghefn y llun

Bu farw William Henry Ensor o achosion naturiol yn 1969. Roedd yn 83 oed.

Bydd ei wyres yn ei gofio y Sul hwn.

"Dydw i ddim yn un am bethau militaraidd fel arfer. Ond roedd Taid yn arwr i mi am ei fod yn ddyn mor garedig, ac mi fyddai'n gwylio'r seremoni o Neuadd Albert ddydd Sul er mwyn cofio amdano fo."