Ymestyn cynllun teithio rhad ar fysiau i bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cynllun teithio'n rhatach ar fysiau i gynnwys pawb rhwng 16-21 oed sy'n byw yng Nghymru.
Roedd cynllun Fy Ngherdyn Teithio, sy'n cynnig gostyngiad o draean y pris, yn arfer bod ar agor i bobl rhwng 16-18 oed yn unig.
Wrth gyhoeddi'r estyniad, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates ei fod yn gobeithio gweld y newidiadau yn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau ar gyfer mwy o'u teithiau.
"Bydd gwelliant heddiw i'r cynllun Fy Ngherdyn Teithio nid yn unig yn helpu pobl ifanc sy'n hyfforddi neu mewn prentisiaethau ac yn ystod y cyfnod o newid i fyd gwaith, ond bydd gobeithio hefyd yn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau ar gyfer mwy o'u teithiau."
Ychwanegodd: "Yn y ffordd yma, byddant yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd ac ansawdd yr aer yn ein trefi a'n dinasoedd."
Gallai'r estyniad ddigwydd ym mis Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017