Teyrnged i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
Susan CurtisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Susan Curtis mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ar 11 Tachwedd

Mae teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi teyrnged i fam a gwraig "gariadus ac anhunanol".

Bu farw Susan Elizabeth Curtis, 50 oed o St Thomas, Abertawe, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cyffordd 35 Pencoed a 36 Sarn toc cyn 07:40 fore Sul.

Dywedodd ei theulu - ei gŵr Leighton, ei phlant Sam, Ben, Emily a Rebecca - bod Ms Curtis yn ddynes "cryf ac annibynnol" ac nad oeddent yn "hyd yn oed yn gallu dechrau meddwl am y bwlch mae hi wedi ei adael, nid yn unig yn ein bywydau ni, ond ym mywydau pawb oedd yn ei hadnabod".

Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i siarad gydag unrhyw un fu'n dyst i'r gwrthdrawiad neu a welodd y Renault Clio arian cyn y gwrthdrawiad, wrth i'r ymchwiliad barhau.