Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru v Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Paratoadau chwaraewyr Cymru cyn y gêm fawr yn erbyn Denmarc nos Wener

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi cadarnhau fod Gareth Bale yn "barod i chwarae" cyn i Gymru herio Denmarc i benderfynu pwy fydd ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd pryderon am ffitrwydd Bale ar ôl iddo dderbyn anaf i'w bigwrn tra'n chwarae i Real Madrid dros y penwythnos, ond mae Bale wedi bod yn ymarfer gyda charfan Cymru.

Bydd modd i Gymru sicrhau dyrchafiad i Haen A y gystadleuaeth os ydyn nhw'n trechu Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Dywedodd Giggs fod Bale "wedi edrych yn dda yn ystod yr wythnos" a'i fod yn "barod i chwarae".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Camp Lawn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Camp Lawn

Mae'r amddiffynwyr Chris Mepham a Neil Taylor wedi gorfod tynnu 'nôl o'r garfan, tra bod Kieron Freeman wedi cael ei alw yn eu lle.

Roedd disgwyl i Joe Rodon gael ei ychwanegu hefyd ond fe dderbyniodd anaf i'w ben-glin yn ystod buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd Giggs na fydd George Thomas yn y garfan fydd yn herio Denmarc.

"Aeth e drosodd ar ei bigwrn dros y penwythnos ond mae'n gwella," meddai Giggs.

"Mae'r tebygrwydd y bydd yn holliach ar gyfer gêm Albania yn tua 50% ar hyn o bryd, ond mae pawb arall yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

2-0 i Ddenmarc oedd canlyniad y gêm yn Aarhus ym mis Medi

Denmarc oedd yn fuddugol pan deithiodd Cymru i Aarhus ym mis Medi.

Roedd perfformiad arbennig a dwy gôl gan Christian Eriksen yn ddigon i drechu tîm ifanc Cymru, a dywedodd Giggs y bydd rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus o seren Tottenham Hotspur unwaith eto.

"Mae e [Eriksen] yn chwaraewr ardderchog, ac fe oedd y gwahaniaeth yn Aarhus. Mae rhaid i ni fod yn ymwybodol o'i dalent, ac mi fyddwn ni.

"Mae hi'n un peth i gynllunio yn ei erbyn, ond mae hi'n fater arall i weithredu'r cynllun yno... gallai fod y gwahaniaeth, ond mae o'r un peth iddyn nhw wrth geisio rhwystro ein chwaraewyr gorau ni."

Ond bydd rhaid i Ddenmarc ymdopi heb eu capten dylanwadol, Simon Kjaer, nos Wener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cic rydd gan Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon

Mae Cymru ar frig y tabl ar hyn o bryd gyda chwe phwynt ar ôl tair gêm, tra bod Denmarc yn yr ail safle ar bedwar pwynt ond wedi chwarae un gêm yn llai.

Mae buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Hydref yn golygu y bydd triphwynt nos Wener yn ddigon i sicrhau dyrchafiad i Haen A - sy'n cynnwys rhai o gewri pêl-droed rhyngwladol.

Ond byddai buddugoliaeth i'r ymwelwyr yn sicrhau mai nhw fyddai'n gorffen ar frig y tabl gydag un gêm yn weddill.

Gall gêm gyfartal fod yn ddigon i Ddenmarc orffen ar y brig - os ydyn nhw'n llwyddo i drechu Gweriniaeth Iwerddon yng ngêm olaf y grŵp nos Lun.

  • Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45 nos Wener, a bydd modd dilyn y cyfan ar raglen Camp Lawn BBC Radio Cymru.