Ifan a Gwawr Evans a genedigaeth gynnar eu mab

  • Cyhoeddwyd
Mae Gwawr, Ifan a Heti wedi gwirioni ar Jos, aelod newydd y teulu.Ffynhonnell y llun, Ifan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwawr, Ifan a Heti wedi gwirioni ar Jos, aelod newydd y teulu.

Mae genedigaeth babi yn achlysur i'w ddathlu ond mae'n gallu bod yn gyfnod gofidus hefyd os yw'r bychan yn cyrraedd cryn pryd. Dyna brofiad Gwawr Evans pan roddodd hi enedigaeth i Jos, ei hail blentyn hi a'i gŵr, y cyflwynydd Ifan Evans.

"Ro'n i fod i orffen gwaith ddiwedd Gorffennaf ac ro'dd y babi i fod i gyrraedd ddechre' Awst", eglurodd Gwawr wrth Garry Owen ar Taro'r Post, Radio Cymru ddydd Gwener 16 Tachwedd.

Roedd y rhaglen yn trafod profiadau mamau o dderbyn taliadau mamolaeth yn gynnar.

"Ro'n i yn yr ysbyty am bythefnos wedyn. Ro'dd e yn gyfnod gofidus," meddai Gwawr.

"Er bod Jos yn anadlu yn iawn ro'n i'n poeni a gan ei fod wedi ei eni mor gynnar ro'n ni'n cael rhagor o ymweliadau gan y meddygon a'r health visitors"

I Ifan hefyd roedd yn gyfnod pryderus.

"Mae'r sefyllfa yn un anodd i ddelio â hi," meddai.

"Ond fel pob creisis arall 'dych chi'n dysgu i ddelio ag e o ddydd i ddydd.

"Roedden ni'n ffodus bod teulu a ffrindiau mor barod i helpu. Mae'n effeithio pawb ac yn rhoi rhagor o faich ar y teulu. Ond ry'n ni'n ddiolchgar iddyn nhw am bob cymorth," eglurodd cyflwynydd y p'nawn ar Radio Cymru.

Wedi iddi hi ddod adre o'r ysbyty cafodd Gwawr wybod bod ei thaliadau cyfnod mamolaeth wedi dechrau'n barod.

Disgrifiad,

Gwawr ac Ifan Evans yn trafod genedigaeth gynnar eu mab

"Mae'r pum mis cyntaf o'r cyfnod mamolaeth wedi bod yn ofidus iawn gan ein bod ni'n gorfod gwneud yn siŵr bod Jos yn iawn.

"Sa'i'n gallu mwynhau y cyfnod mamolaeth gymaint a wnes i pan gafodd fy merch Heti ei geni. Bryd hynny ro'n i ar cloud nine a ges i ddod adre' o'r ysbyty ddiwrnod ar ôl yr enedigaeth.

"Tra ro'n i yn yr ysbyty ro'dd gen i hiraeth ofnadwy am Heti. Ro'dd e'n torri fy nghalon i. Fydde'r profiad ddim wedi bod mor wael 'tasen i yn disgw'l fy mhlentyn cynta."

Ond er gwaetha'r enedigaeth gynnar annisgwyl mae Gwawr ac Ifan wrth eu boddau gyda'r ychwanegiad at y teulu.

"Mae Heti yn llenwi'r tŷ gyda'i direidi," meddai Gwawr.

Ychwanegodd Ifan: "Mae Jos yn altro bob dydd ac ry'ch chi'n gallu gweld bod ganddo dipyn o gymeriad ac mae'n fachgen bach hapus dros ben. Ry'n ni'n ddiolchgar i bawb yn uned blant SCBU yn Ysbyty Glan Gwili sy'n gwneud gwyrthiau dan amodau digon anodd. Maen nhw'n haeddu pob clod."

Taro'r Post, Llun-Gwener, Radio Cymru, 13:00