Galw am fwy o gefnogaeth i rieni babanod wedi'u geni'n gynnar

  • Cyhoeddwyd
CaioFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caio yn un o 2,700 o fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar yng Nghymru pob blwyddyn

Mae 'na alw ar i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfnod mamolaeth estynedig a chymorth ariannol i rieni babanod sy'n cael eu geni'n gynnar.

Bu'n rhaid i Kim Williams, mam i bedwar o Bwllheli, gymryd tri mis o'i gwaith yn ddi-dâl, a dywedodd y byddai cymorth ariannol o'r fath wedi bod o fudd garw iddi hi a'i theulu

Mae'r elusen Bliss, sy'n cefnogi teuluoedd plant sydd wedi eu geni'n gynnar, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Alban ac i Lywodraeth San Steffan i ganiatáu cyfnod mamolaeth hwy.

Yn ôl prif weithredwr yr elusen, byddai cyflwyno Cronfa Costau Newydd-anedig yng Nghymru yn "helpu mwy o rieni i fod gyda'i babanod yn ystod cyfnod lle maen nhw wir eu hangen nhw".

Cafodd mab Ms Williams, Caio, ei eni 10 wythnos yn gynnar, a bu'n rhaid iddi aros gydag o yn yr ysbyty am saith wythnos - wnaeth olygu costau ariannol ychwanegol i'r teulu.

Mae Llywodraeth Yr Alban yn rhoi cymorth ariannol tuag at gostau teithio ac yn y blaen i deuluoedd sydd â babi wedi cael ei eni'n gynnar.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mab Kim Williams, Caio, ei eni 10 wythnos yn gynnar, gan dreulio saith wythnos yn yr ysbyty

Mae Caio'n un o 2,700 o fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar yng Nghymru pob blwyddyn.

Roedd yn ddau bwys ac 13 owns pan gafodd ei eni, ac mae o bellach yn ddwy oed ac angen gofal cyson.

Roedd gan Ms Williams ddau blentyn yn eu harddegau pan gafodd ei eni, ac mae hefyd ganddi eneth fach flwydd oed erbyn hyn.

Ar y pryd roedd pethau yn hynod o anodd gan ei bod yn treulio'i holl amser yn yr ysbyty.

"Oeddan ni yn Ysbyty Gwynedd am dri diwrnod, ac wedyn gafon ni ein symud i Glan Clwyd, a tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd Iwan, ei dad o, yn dal yn gorfod gweithio achos roedd maternity fi wedi cychwyn," meddai.

"O'n i yn yr ysbyty hefo Caio am saith wythnos ac wedyn oedd gynna fi'r ddau hynaf adra - oedd o'n amsar ofnadwy o anodd.

"Roedd angan pres i gael bwyd, pres petrol i Iwan ddod i'r ysbyty, a phres os oeddan ni isho talu i rywun ddod â'r plant hynaf i'r ysbyty. Roedd hi'n anodd."

Mi gymrodd Ms Williams naw mis o gyfnod mamolaeth a thri mis arall yn ddi-dâl.

Baich i gwmnïau bach

Mae'r elusen Bliss yn dadlau y dylai teuluoedd i blant sy'n cael eu geni'n gynnar gael cyfnodau mamolaeth hwy, ond mae Fflur Jones sy'n gyfreithiwr cyflogaeth yn rhagweld problemau.

"Os ydi'r tâl mamolaeth yn dod i ben yn fuan cyn iddyn nhw ddechrau cael yr amser arbennig yna hefo'u plentyn adre, dwi'n gweld bod yna ddadl y dylen nhw gael mwy o dâl, neu dâl am yn hirach," meddai.

"Ond y broblem hefo hynny ydi sut ydan ni'n mynd i ariannu fo o safbwynt cwmnïau bach a chanolig sy'n cwyno yn barod fod costau mamolaeth yn ddrud iawn iddyn nhw am eu bod yn gorfod talu i rywun arall wneud y gwaith, a thalu tâl mamolaeth statudol - felly oes yna berygl, drwy roi mwy o ofynion ar gwmnïau, y byddan nhw yn llai tebygol o recriwtio merched oedran cenhedlu?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd yn darparu cymorth ariannol i helpu pobl yng Nghymru gael y gofal maen nhw ei angen.

Mae'r cynllun ar gael i bobl sy'n derbyn budd-dal neu ar incwm isel.

Dywedodd llefarydd ar ran adran Fusnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth San Steffan - sy'n gyfrifol am famolaeth, gan nad yw'n fater wedi ei ddatganoli - eu bod yn ymgymryd ag adolygiad o'r ddarpariaeth i rieni babanod wedi'u geni'n gynnar, ac am "orffen yr adolygiad yn y flwyddyn newydd".