Pryder y gallai cŵn bridio gael eu saethu

  • Cyhoeddwyd
Chwe daeargi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y chwech yma eu hachub yn ddiweddar - mae'r hynaf yn wyth oed

Mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn poeni am ddiogelwch cŵn sy'n cael eu defnyddio yn anghyfreithlon i fagu cŵn bach, wrth i wleidyddion ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn dechrau cyfnod ymgynghori ar fesur newydd - Cyfraith Lucy.

Byddai'r gyfraith yn gwahardd bridwyr a siopau anifeiliaid anwes rhag gwerthu cŵn a chathod sy'n iau na chwe mis oed.

Yr unig ffordd i brynu'r anifeiliaid fyddai drwy bobl sydd â thrwydded swyddogol.

Pryder yr ymgyrchwyr yw y byddai rhai bridwyr yn saethu eu hanifeiliaid cyn i'r ddeddf newydd ddod i rym.

Dywedodd un ymgyrchydd ei fod eisoes wedi cymryd anifeiliaid oddi ar fridwyr ar ôl rhoi addewid na fyddai'n rhoi gwybod i'r awdurdodau.

Plismona'r ddeddf

Fe wnaeth ymgynghoriad ar y gyfraith newydd ddod i ben yn Lloegr ym mis Medi, tra yng Nghymru mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud y bydd ymgynghoriad tebyg yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Linda Goodman o'r grŵp Cariad, sy'n ymgyrchu dros les anifeiliaid, ei bod yn poeni am y sefyllfa.

"Mae'r anifeiliaid eisoes mewn cyflwr digon drwg, gan olygu na fydd y perchnogion am eu rhoi i'r awdurdodau - byddan nhw just yn eu saethu," meddai.

Mae hi'n gobeithio y byddai rhai o'r bridwyr yn penderfynu dilyn llwybr cyfreithlon a chymryd gwell gofal o'u hanifeiliaid.

Ond mae hi hefyd yn credu nad oes gan yr awdurdodau lleol yr adnoddau i arolygu'r cyfan.

Honnodd fod y "cynghorau yn gwybod na allant blismona'r sefyllfa" felly byddai'n rhaid i'r cyhoedd "fod yn gyfrifol am sicrhau fod y gyfraith yn cael ei ufuddhau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eileen Jones ei bob yn achub cŵn bob wythnos

Dywedodd Eileen Jones, un o sefydlwyr Freinds of Animals Wales, ei bod yn teithio i'r gorllewin o Bontypridd tua dwywaith yr wythnos er mwyn cwrdd â bridwyr anghyfreithlon.

Yno, meddai, mewn lleoliadau anghysbell maen nhw'n rhoi'r anifeiliaid nad ydynt eisiau, er mwyn iddi hi ddod o hyd i gartref newydd iddynt.

Dywedodd ei bod ar ei hymweliad diwethaf â'r gogledd o Landeilo yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn naw daeargi - pob un yn ast.

Dros gyfnod o 13 o flynyddoedd, meddai, mae wedi derbyn miloedd o gŵn tebyg.

"Mae cyfraith Lucy eisoes yn gwneud gwahaniaeth," meddai.

"Mae nifer fawr o fridwyr yn rhoi'r gorau iddi, neu fe fyddant yn diweddu a nifer o gŵn bach nad oes modd eu gwerthu."

Ar hyn o bryd yng Nghymru mae unrhyw un sydd â thri neu fwy o gŵn magu angen sicrhau trwydded gan yr awdurdod lleol.

Yn ôl gwybodaeth gafodd ei roi i BBC Cymru gan 14 o gynghorau sir, roedd yna 97 o fridwyr trwyddedig yn yr ardaloedd hyn, yn amrywio o 33 yng Ngheredigion i ddim un ym Mlaenau Gwent.

Ond cred Ms Jones bod nifer y rhai sy'n gweithredu heb drwydded o leiaf ddeg gwaith yn fwy na hynny.