Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-2 Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae breuddwydion Cymru o orffen ar frig eu grŵp Nghynghrair y Cenhedloedd ar ben ar ôl colli 2-1 yng Nghaerdydd.

Golygai'r canlyniad y bydd Cymru yn gorffen yn ail i Ddenmarc.

Rhoddodd Gareth Bale ychydig o obaith i'r tîm cartref ond roedd ei gôl yn rhy hwyr.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy Nicolai Jorgensen, ar ôl gwrth ymsosodiad chwim.

Bu bron i Gymru ddod a'r gêm yn gyfartal wyth mund o'r diwedd ond i Schmeichel arbed yn wych o gic rydd Bale.

Ond aeth Denmarc ymhellach ar y blaen ar ôl 88 munud wrth i Martin Braithwaite ergydio heibio Hennessey.

Sgoriodd Bale funud yn ddiweddarach i roi rhywfaint o obaith i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Denmarc yn dathlu gôl Nicolai Jorgensen

Roedd y rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi dewis tîm ifanc ymosodol gan wybod y byddai buddugoliaeth yn golygu y byddai Cymru yn gorffen ar frig y grŵp.

Fe wnaeth David Brooks, Tyler Roberts a Tom Lawrence gadw eu lle, gyda Bale ac Aaron Ramsey yn dychwelyd ar ôl colli'r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Ond gyda thîm ymosodol roedd yna roedd yna fylchau ar adegau yn yr amddiffyn.

A llwyddodd gwrth ymosodiad Thomas Delaney a Yussuf Poulsen ddod o hyd i Jorgensen, a lwyddodd i ergydio drwy goesau Wayne Hennessey.

Cyn hynny roedd ergyd Bale wedi gorfodi arbediad gan Schmeichel, tra bod James Chester wedi penio cyfle da heibio'r postyn ar ôl croesiad Brooks.

Daeth Brooks, seren y gêm, hefyd yn agos gydag ergyd aeth heibio'r postyn.

Fe wnaeth yr ail hanner ddilyn patrwm tebyg i'r hanner cyntaf. Cymru yn ceisio ymosod ac yn creu cyfleoedd - dim ond i Ddenmarc lwyddo i wrth ymosod yn glinigaidd.

Daeth eu hail gôl wrth i Braithwaite daro ergyd gref i gornel y rhwyd i selio'r fuddugoliaeth.

Er y golled roedd gan yr amddiffynwr Chris Gunter un rheswm i ddathlu.

Yn dilyn anaf i Dummett fe ddaeth Gunter ar y maes gan ennill ei gap rhif 92, yn gyfartal â record Neville Southall.

Dywedodd Giggs: "Rwy'n amlwg yn siomedig. Ond rwy'n falch o'r chwaraewyr ac fe fyddwn yn dysgu o hyn."