Cynghrair y Cenhedloedd: Gweriniaeth Iwerddon 0-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd cic rydd wych gan Harry Wilson yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth bwysig i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth.
Ar ôl hanner cyntaf gymharol ddifflach, fe wnaeth asgellwr Derby danio'r ornest gydag ergyd gelfydd i gyffroi'r miloedd o grysau cochion oedd wedi teithio.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu na fydd Cymru'n gorffen ar waelod eu grŵp yn ail adran Cynghrair y Cenhedloedd.
Yn hytrach fe fydd y Gwyddelod, oedd eisoes wedi colli 4-1 yng Nghaerdydd fis diwethaf, yn disgyn i'r drydedd adran.
Dechrau nerfus
Gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn absennol ag anafiadau, penderfynodd y rheolwr Ryan Giggs alw'r ymosodwyr David Brooks a Tom Lawrence yn ôl i'r tîm.
Roedd lle yn yr 11 cyntaf hefyd i Matthew Smith a Tyler Roberts, gyda Chris Gunter a Sam Vokes yn gollwng i'r fainc ar ôl dechrau yn erbyn Sbaen.
Ar ôl ildio goliau cynnar yn y gêm honno nos Iau, bu bron i Gymru gael dechrau'r un mor drychinebus yn Nulyn o fewn y 10 munud cyntaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Collodd Matthew Smith y bêl i Cyrus Christie ar ymyl ei gwrt cosbi ei hun, ac roedd ei ddyled yn fawr i Wayne Hennessey am arbed yn wych i atal y Gwyddel rhag sgorio.
Wedi hynny dechreuodd Cymru reoli'r meddiant, ond prin oedd y cyfleoedd, gyda Tyler Roberts yn dod agosaf i'r crysau cochion tra bod Shane Duffy a Callum Robinson wedi bygwth ar ben arall y cae.
Fe aeth Kevin Long i lyfr y dyfarnwr am drosedd ar Brooks, cyn i Ben Davies ymuno ag ef am dacl hwyr ar Harry Arter - gyda'r cerdyn melyn yn golygu ei fod wedi'i wahardd o gêm Cymru yn erbyn Denmarc fis nesaf.
Hudolus gan Harry
Dechreuodd Cymru ychydig yn fwy pwrpasol yn yr ail hanner, ac fe ddaeth eu haeddiant wedi 58 munud wrth i Connor Roberts gael ei faglu 25 llath o'r gôl gan Arter.
Yn absenoldeb Bale, Wilson gymrodd y cyfrifoldeb am y gic rydd - a'i tharo i gornel bellaf y rhwyd mewn modd y byddai seren Real Madrid wedi bod yn falch ohono.
Cafodd Cymru ragor o gyfleoedd da yn yr 20 munud olaf, gyda Lawrence a Tyler Roberts yn bygwth gydag ergydion.
Ond James Chester ddaeth agosaf i ddyblu'r fantais, dim ond i weld ei beniad yn mynd fodfeddi heibio i'r postyn o chwe llath.
Daeth Gunter ac Andy King i'r maes yn y munudau olaf wrth i Giggs anfon ei chwaraewyr profiadol ymlaen i geisio gwarchod y triphwynt.
Ac fe lwyddon nhw i oroesi pwysau Iwerddon, gyda James McClean yn cael cyfle hwyr dim ond i weld Hennessey'n arbed yn dda.
Gydag un gêm i fynd yn y grŵp mae Cymru ar y brig, ac fe fyddan nhw'n sicrhau'r safle cyntaf a dyrchafiad i'r adran gyntaf os ydyn nhw'n trechu Denmarc yng Nghaerdydd ar 16 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018