Rygbi Merched: Cymru 65-0 Hong Kong

  • Cyhoeddwyd
Wales' Lisa Neumann runs in to score tryFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Lisa Neumann ddau gais i Gymru yn erbyn Hong Kong

Roedd yna fuddugoliaeth ryfeddol ar Barc yr Arfau nos Wener i dîm rygbi merched Cymru wrth iddynt drechu eu gwrthwynebwyr Hong Kong o 65 i ddim.

Roedd yna ddeg cais i gyd a'r rheiny yn cael eu sgorio gan chwech o'r chwaraewyr sef Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Bethan Lewis, Sioned Harries, Gwen Crabb a Siwan Lillicrap.

I goroni'r cyfan roedd cicio Robyn Wilkins yn gywir ac fe sgorio hi 15 o bwyntiau.

Er y sgôr rhyfeddol doedd e ddim yn ddigon i drechu record tîm merched Cymru yn erbyn Yr Almaen yn 2002 pan roedd y sgôr yn 77-0.

Yr wythnos nesaf fe fydd y tîm yn wynebu Canada.

'Cam mawr ymlaen'

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd y prif hyfforddwr Rowland Phillips ei fod yn hynod bles gyda'r canlyniad.

"Cyn dechrau'r gêm," meddai, "fe fuon ni'n siarad am ddechrau credu yn ein hunain ac ennill gemau y mae disgwyl i ni eu hennill gyda sgôr uchel.

"Roedd hi'n braf cael ein hail fuddugoliaeth yn nhymor yr hydref - mae tipyn o waith i'w wneud eto ond roedd buddugoliaeth nos Wener yn gam mawr ymlaen."