'Ddim wedi gweld dim byd fel e mewn ugain mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Wrth gael ei holi am gytundeb drafft Brexit dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad yw wedi gweld "wythnos fel hon" yn ei yrfa wleidyddol.
Ar raglen y Post Cynta dywedodd: "Fi wedi bod mewn gwleidyddiaeth nawr am ugain mlynedd ac heb weld unrhyw beth fel hyn.
"Mae'n anodd iawn gwybod beth yw'r ffordd ymlaen achos dwi'm yn gweld e (y cytundeb drafft) yn mynd drwy San Steffan."
Ychwanegodd mai un o'r problemau yw mai cytundeb dros dro yw'r hyn sy'n cael ei gynnig ac felly nid yw'n cynnig y sicrwydd sydd ei angen.
'Mynd nôl at y bobl'
Dywedodd Mr Jones hefyd mai cael refferendwm arall yw'r unig ddewis os nad yw gwleidyddion yn gallu dod i gytundeb.
"Os nad yw gwleidyddion yn gallu cytuno," meddai, "ym mha ffordd ry'ch chi'n datrys y broblem heb fynd yn ôl at y bobl na'th benderfynu yn y lle cyntaf.
"Mae'n well na dim dêl ond beth sy'n bod gydag e yw nad yw e'n barhaol - dyw'r ansicrwydd ddim yn help i ni i sicrhau buddsoddiad."
Ddydd Iau tra ar ymweliad â Chymru, fe wnaeth un o weinidogion cabinet San Steffan, David Lidington, wrthod honiadau fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hanwybyddu yn ystod y broses o lunio cytundeb Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018