Creu hanes yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru

  • Cyhoeddwyd
saFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Daw Megan Lewis o Geredigion ac enillodd ei gweithiau buddugol y ddwy brif wobr lenyddol yn Eisteddfod CFfI y sir honno hefyd yn gynharach fis Tachwedd

Cafodd hanes ei greu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ddydd Sadwrn wrth i ferch o Geredigion gipio'r gadair a'r goron - hi yw'r person cyntaf i gyflawni'r gamp.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Megan Elenid Lewis o Lanfihangel-y-Creuddyn ei bod wrth ei bodd ond yn fwy na dim ei bod yn falch bod gwaith a oedd yn cyfeirio at fywyd cefn gwlad wedi cael ei wobrwyo.

Ychydig wythnosau yn ôl enillodd Megan y gadair a'r goron yn Eisteddfod CFfI Ceredigion ac felly yr oedd ei cherdd a'i stori fer yn mynd ymlaen i Eisteddfod Cymru.

Arfordir oedd testun y gerdd a'r beirniad eleni oedd Gwennan Evans.

"Mae'r gerdd," meddai Megan, "yn deillio o daith gerdded ar lwybr yr arfordir o Borth i Aberystwyth. O weld pobl ddi-Gymraeg yn cael trafferth deall ac ynganu enwau lleoedd dwi'n ystyried pa lwybr y dylid ei ddilyn - y llwybr o'u hanwybyddu neu'r llwybr o ddweud wrthynt yr ystyr a'r hanes.

"Mae'r stori 'Cwm' yn ymwneud â bywyd cefn gwlad lle mae efaill wedi dychwelyd i sioe amaethyddol wedi blynyddoedd o beidio bod - ond dyw pethau ddim yr un fath - mae yna greithiau a chyfrinach."

Catrin Haf Jones oedd beirniad cystadleuaeth y goron.

Cefn gwlad yn bwysig

Cafodd Megan ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.

Wedi gweithio am gyfnod yn Golwg mae hi bellach yn gyfieithydd i cwmni Trywydd.

Mae'n parhau i fyw yn Llanfihangel-y-Creuddyn ac mae bywyd cefn gwlad yn hynod o bwysig iddi.

"Mae nifer o heriau yn ein hwynebu yng nghefn gwlad," meddai, "ac ry'n yn poeni yn fawr am Brexit wrth gwrs.

"Dwi wrth fy modd yn ffermio ac ysgrifennu pan mae amser - roedd cael dyddiad cau yn help i lunio'r gwaith."

Ffynhonnell y llun, @CFfICymru
Disgrifiad o’r llun,

Bwrlwm yr Eisteddfod yn Y Barri ddydd Sadwrn

Dywedodd mai un o'r awduron sydd wedi dylanwadu fwyaf arni yw Caryl Lewis.

Mae Megan yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Trisant.

Fe enillodd hi'r gadair yn Eisteddfod CFfI Cymru ym Môn yn 2013 a'r adeg honno un wobr oedd yn cael ei chyflwyno am stori neu gerdd ond bellach mae yna ddwy wobr - y naill yn cydnabod y gerdd orau a'r llall yn cydnabod y stori orau.

"Mae'n bwysig cael dwy wobr," meddai Megan, " mae tipyn o amser yn mynd i wneud y gwaith ac ry'n yn sôn am ddwy grefft wahanol.

"Fydden i'n hoffi diolch i athrawon, teulu a ffrindiau am bob cefnogaeth ac am ddylanwad bywyd cefn gwlad - dyna sy'n fy ysgogi i ysgrifennu."

Sir Ceredigion a gafodd y mwyaf o farciau yn yr Eisteddfod yn Y Barri ddydd Sadwrn - roedd Sir Gâr yn ail a Sir Benfro yn drydydd.