Bebb: Gwrthwynebwyr Theresa May yn gorfesur eu pŵer
- Cyhoeddwyd
Yn ôl y cyn-weinidog Guto Bebb dyw'r ymdrechion i gael gwared â Theresa May yn ddim mwy na "hunan-faldod".
Mewn cyfweliad â'r BBC ddydd Sul dywedodd AS Ceidwadol Aberconwy fod y rhai hynny a oedd yn ysgrifennu llythyron o ddiffyg hyder yn "gorfesur eu pŵer".
Bydd y Prif Weinidog, sydd eisoes wedi ei beirniadu'n hallt am ei chynllun drafft ar Brexit, yn wynebu her i'w harweinyddiaeth os yw 48 aelod yn ysgrifennu i ddweud nad oes ganddynt hyder ynddi.
Hyd yma mae 24 AC Ceidwadol wedi cyflwyno llythyron o ddiffyg hyder yn agored.
Mae rhai Aelodau Ceidwadol sydd o blaid Brexit wedi dweud bod y nifer hwnnw wedi'i gyrraedd ond nad yw dymuniad pawb eto'n gyhoeddus.
"Hyd yn oed os oes 48 aelod yn datgan yn ysgrifenedig nad oes ganddynt hyder - mae'r ffaith nad yw pawb wedi nodi hynny'n gyhoeddus hyd yma o ddiddordeb i fi a'm cyd-aelodau yn San Steffan," meddai Mr Bebb.
'May ddim yn haeddu pleidlais o ddiffyg hyder'
Dywedodd Mr Bebb hefyd: "Ers i mi adael ddydd Iau un o'r materion ry'n wedi bod yn ei drafod yw'r ffaith fod Steve Baker, Jacob Rees-Mogg ac eraill yn Grŵp Ymchwil Ewrop (ERG) wedi gorfesur y pŵer sydd ganddynt.
"Fy nheimlad personol i am y sefyllfa yw nad yw hi'n debygol y bydd Theresa May yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder - a dyw hi ddim yn haeddu colli pleidlais o'r fath - i fod yn onest mae'r cyfan yn edrych fel sioe ymylol o hunan-faldod."
Fe adawodd Mr Bebb, sy'n dymuno aros yn rhan o'r UE, ei swydd fel gweinidog amddiffyn fis Gorffennaf er mwyn pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar Fesur Tollau Brexit.
Ychwanegodd Mr Bebb y bydd hi'n anodd i Mrs May gael y cytundeb drafft drwy'r senedd.
Mewn cyfweliad cynharach dywedodd y cyn-Weinidog amddiffyn ei fod wedi dod i'r casgliad bod rhaid gadael i'r bobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd benderfynu a ydyn nhw'n fodlon gyda'r cytundeb y byddai'r Prif Weinidog yn ei sicrhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd8 Medi 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018