Guto Bebb yn galw am refferendwm arall
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Weinidog Ceidwadol, Guto Bebb, wedi cefnogi'r alwad am gynnal refferendwm ar delerau'r cytundeb Brexit.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd y cyn-Weinidog amddiffyn ei fod wedi dod i'r casgliad bod rhaid gadael i'r bobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd benderfynu a ydyn nhw'n fodlon gyda'r cytundeb y byddai'r Prif Weinidog yn ei sicrhau.
Fe fydd Mr Bebb yn mynd ati'n swyddogol i ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch 'People's Vote' yn ystod rali yng Nghaerdydd y prynhawn yma.
Fe ymddiswyddodd fel gweinidog amddiffyn ym mis Gorffennaf er mwyn iddo allu pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar Brexit
Mae'r grwp ymgyrchu 'People's Vote' wedi cael cefnogaeth sawl aelod seneddol Ceidwadol, gan gynnwys Anna Soubry, Sarah Wollaston, Justine Greening a Philip Lee.
"Rydw i wedi dod i'r casgliad," meddai Mr Bebb, "fod pa bynnag gytundeb y byddwn ni'n ei sicrhau yn mynd i'n galluogi i ni'r ddarganfod beth yn union y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei olygu, yn wahanol i nôl yn 2016 pan nad oedden ni'n gwybod beth oedd y goblygiadau.
Dywedodd mai'r dewis ddylai gael ei roi o flaen y genedl ydy "un ai gadw'r hyn sydd gyda ni neu gefnogi'r fargen y byddai'r Prif Weinidog yn ei lwyddo i'w daro", ac y byddai peidio â rhoi'r cyfle i'r cyhoedd edrych ar y cytundeb terfynol yn "annemocrataidd".
Yn ôl Mr Bebb, roedd nifer o'r rheiny oedd yn ymgyrchu i adael yr Undeb yn dadlau y byddai cael cytundeb economaidd gyda'r holl aelodau yn 'hawdd', a bod hynny wedi cael ei brofi'n anghywir bellach.
"Rydyn ni erbyn hyn yn gwybod beth fyddai gadael yn ei olygu ac rydyn ni'n amlwg yn gwybod beth fyddai'n digwydd os fydden ni'n aros.
"Mae'n ddemocrataidd i ganiatáu i bobl edrych ar yr holl ffeithiau, i edrych ar y fargen sydd wedi cael ei tharo a dweud 'ydyn ni'n derbyn hynny ai peidio'.
Ymateb Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones
Pan wnaeth Guto Bebb ymddiswyddo fel Gweinidog Amddiffyn yn Llywodraeth Prydain yng Ngorffennaf mi roedd o'n gefnogol dros ben o Theresa May.
Wedi ymddiswyddiad Boris Johnson mewn gwrthwynebiad i'w chynlluniau Brexit, roedd y Prif Weinidog mewn cryn drafferth.
Ond roedd Bebb o'r farn fod gormod wedi cael ei roi i'r rhai sydd fwyaf brwd dros adael yr Undeb Ewropeaidd, oedd yn mynd yn groes i gynlluniau May -- y cytundeb Chequers.
Drwy gefnogi'r ymgyrch i gynnal refferendwm arall cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd mae Bebb rŵan yn troi ei gefn ar May.
Wythnos yn ôl dywedodd hi mewn erthygl bapur newydd na fydde hi'n caniatáu pleidlais arall ar y mater; y byddai'n bradychu'r miliynau oedd wedi cefnogi Brexit yn 2016.
Mae'r cyfan yn dangos faint o rwyg sy'n bodoli o fewn y blaid Geidwadol -- a faint o her sy'n wynebu Theresa May wrth geisio cadw pawb yn hapus.