Gwrthod cynnig i ddiwygio cod ymddygiad gweinidogion

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am broses fwy annibynnol wedi bod ers blynyddoedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad i ddiwygio'r drefn o ddelio gyda chwynion am weinidogion y llywodraeth.

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi dweud y dylai cwynion yn erbyn gweinidogion cael eu rhoi gerbron y Comisiynydd Safonau yn hytrach na'r prif weinidog ei hun.

Ar hyn o bryd, mae unrhyw gŵynion am Aelodau Cynulliad yn cael eu rhoi gerbron y Comisiynydd, Syr Roderick Evans, ond os ydynt yn weinidogion Llywodraeth Cymru yna Carwyn Jones ei hun sy'n dyfarnu.

Yn ôl y drefn bresennol, gall y prif weinidog gyfeirio'r gŵyn at gynghorydd annibynnol, ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Er y galw mae Carwyn Jones wedi gwrthod y cynnig am ddiwygio ac am barhau â'r drefn bresennol.

Dywedodd y gallai newid y drefn achosi dryswch rhwng Llywodraeth Cymru a'r Senedd.

'Angen proses fwy annibynnol'

Er hyn mae pwyllgor safonau'r llywodraeth wedi galw am ddiwygio i wneud y broses yn fwy annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayne Bryant yn dweud bod angen newid y drefn bresennol

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor Jayne Bryant: "Rydym yn credu os bod rhywun yn cymryd y cam pwysig i gwyno am ymddygiad amhriodol, ni ddylai neb orfod wynebu cael eich gyrru at adran wahanol.

"Mae cwynion angen cael eu delio gydag o'r eiliad cyntaf. Rydym yn credu byddai hyn yn haws i'r cyhoedd."

Unwaith yn unig y mae cwyn am weinidog wedi cael ei gyfeirio at gynghorydd annibynnol, sef yr un yn erbyn y prif weinidog ei hun wedi honiadau o fwlio yn y senedd.

Yn yr achos yna fe ddyfarnodd James Hamilton nad oedd Carwyn Jones wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Bydd adroddiad y pwyllgor ar sut mae'r Cynulliad yn delio gyda chwynion yn cael ei drafod gan Aelodau Seneddol fore Mercher.