Anwybyddu safbwyntiau pobl ifanc am Brexit yn 'beryglus'

  • Cyhoeddwyd
Cyflwyno'r adroddiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adroddiad gan fudiad Plant yng Nghymru ei gyflwyno i'r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies gan griw o bobl ifanc

Byddai anwybyddu barn pobl ifanc am Brexit yn drychinebus, yn ôl awdur adroddiad newydd i Lywodraeth Cymru.

Daw'r rhybudd wedi i ymchwil ddangos fod pobl ifanc yn "wybodus ac yn awyddus i ymuno mewn unrhyw drafodaethau am Brexit".

Dywedodd gweinidogion y byddai'r canfyddiadau yn "dylanwadu ar ddatblygiadau polisi wrth symud ymlaen".

Dros yr wyth mis diwethaf, mae'r mudiad Plant yng Nghymru wedi gwrando ar safbwyntiau dros 650 o bobl ifanc rhwng wyth a 21 oed.

Gwrandawyd ar farn pobl ifanc mewn clybiau ieuenctid, mewn ysgolion a thrwy gyfryngau cymdeithasol.

Lynne Hill
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lynne Hill mae gan bobl ifanc Cymru "safbwyntiau positif a syniadau heriol"

Yn ôl yr adroddiad terfynol: "Er bod pobl ifanc yn mynegi safbwyntiau am adael a sefyll yn yr UE, roedd pobl ifanc yn mynegi'n gryfach eu bod am aros.

"Cafodd ystod eang o broblemau posib eu hadnabod gan bobl ifanc; pethau'n ymwneud â'r amgylchedd, addysg, hawliau dynol a chyfleoedd i deithio ac astudio dramor.

"Mae pobl ifanc yn awyddus iawn i ddeall sut fydd y berthynas newydd gydag Ewrop yn datblygu a sut fydd y berthynas yn effeithio ar eu hopsiynau yn y dyfodol."

Dywedodd prif ymchwilydd yr adroddiad, Lynne Hill: "Dwi'n credu ei fod dangos ei fod yn beryglus i ni beidio â thrafod gyda phobl ifanc."

"Mae ganddyn nhw lawer o safbwyntiau positif, mae ganddyn nhw lawer o syniadau heriol ac maen nhw'n awyddus i drafod."

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies bod neges yr adroddiad am safbwyntiau pobl ifanc yn "glir"

Mae'r adroddiad yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru "hefyd alluogi pobl ifanc i ddysgu a deall am brosesau gwleidyddol sy'n cael effaith ar eu bywydau".

Dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies: "Mae neges y gwaith pwysig yma'n glir.

"Mae pobl ifanc yn rhwystredig nad ydynt wedi cael cyfle i ddweud eu dweud."

Ychwanegodd Mr Irranca-Davies bod canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu rhannu ar hyd y llywodraeth a'u bod am "ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi wrth symud ymlaen".

'Ein barn yn cyfrif'

Aeth grŵp o bobl ifanc i ymweld â'r Senedd i gyflwyno'r adroddiad i'r Gweinidog Plant.

"Ni jyst eisiau sicrwydd bod pobl yn gwrando arnom a bod ein barn yn cyfri'," meddai Amber, sy'n 15 oed o Borth Tywyn.

Mae Callum, sy'n 14 oed ac o Gaerdydd, yn credu y dylai ysgolion addysgu disgyblion am Brexit. Mae e hefyd yn poeni bod Brexit yn creu "rhwygiadau".

Yn ôl Victor, sydd hefyd yn 14 oed ac o Gaerdydd, dylai pobl ifanc gael yr hawl i bleidleisio: "Os ydych yn rhoi'r hawl i bleidleisio i rywun, maen nhw'n gallu mynd mas ac ymchwilio i sicrhau bod eu llais yn ystyrlon. "

"Mae'r adroddiad yma'n ddefnyddiol iawn," dywedodd Connor, sy'n 16 oed o Gaerdydd. "Ond dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod yn gorfod cael adroddiad o safbwyntiau pobl ifanc braidd yn wirion."