Bwrdd iechyd yn ymddiheuro i gleifion cataract wedi pryder

  • Cyhoeddwyd
Llygad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 139 o gleifion lawdriniaeth cataract gan y cwmni

Mae pryder am safon llawdriniaethau llygaid gan gwmni masnachol wedi arwain at ymddiheuriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae 14 claf yn cael eu monitro ac mae saith claf angen triniaeth ychwanegol oherwydd y pryderon.

Fe ddaeth y trafferthion i'r golwg yn dilyn pryder gan arbenigwyr ynglŷn â safon rhai llawdriniaethau cataract.

Cadarnhaodd y bwrdd iechyd eu bod wedi atal eu perthynas gyda chwmni masnachol oherwydd y digwyddiad.

Clinig arbennig

Cafodd 139 o bobl lawdriniaeth yn ôl y bwrdd iechyd, a bydd 14 yn cael eu monitro gan offthalmolegwr mewn clinig arbennig yn ystod y pythefnos nesaf.

Dywedodd llefarydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae saith o'r rhain angen triniaeth ychwanegol ac yn yr holl achosion yma rydym wedi gweithredu i roi gwybodaeth i gleifion."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'r bwrdd wedi penderfynu peidio â pharhau i weithio gyda chwmni masnachol yn dilyn pryderon gan gydweithwyr clinigol.

"Rydym wedi cysylltu â phob un o'r cleifion gafodd lawdriniaeth gan y cwmni a lle mae cleifion wedi mynegi pryder rydym wedi eu galw yn ôl i gael adolygiad.

"Rydym wedi ymddiheuro i'r cleifion."

Datgelodd y bwrdd iechyd eu bod wedi rhannu gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad gyda Llywodraeth Cymru.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r bwrdd iechyd wedi cymryd camau i atal llawdriniaethau pellach gan y cwmni yma a rhoi gwybodaeth i gleifion.

"Bydd y bwrdd yn cynnal ymchwiliadau i'r digwyddiadau yma ac yn adrodd eu canfyddiadau i ni."