Cymraes yn cyhuddo'r Swyddfa Dramor o'i 'bradychu'

  • Cyhoeddwyd
Alison BarkerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn groes i adroddiad gan y Swyddfa Dramor, mae Alison Barker yn credu bod ei phartner wedi'i lofruddio yn India 2014

Mae mam a gollodd ei phartner mewn amgylchiadau amheus yn India yn 2014 wedi dweud ei bod hi'n teimlo fod y Swyddfa Dramor wedi ei "bradychu".

Cafwyd hyd i gorff Andrew Raymond Rodick, 40 oed o Hwlffordd, wedi'i lapio mewn cynfas gwely a charped ar stryd yn Delhi ar 27 Ebrill bedair blynedd yn ôl.

Roedd ei gorff wedi'i glymu gyda rhaff ac roedd wedi pydru yn ôl adroddiad post mortem.

Dywedodd Alison Barker, sydd â thri o blant gyda Mr Rodick, fod y Swyddfa Dramor wedi rhoi pwysau arni i gytuno llosgi ei gorff mewn amlosgfa yn yr India, a'u bod heb ei chefnogi yn dilyn ei farwolaeth.

'Galaru'

"Roedden nhw'n ddiwerth," meddai. "Wnaethon nhw ddim byd... y cyfan wnaethon nhw oedd rhoi pwysau arna i gael gwared â'r corff yn syth.

"Roeddwn ar fy mhen fy hun gyda thri o blant a doedd dim cymorth, ni ddaeth unrhyw un heibio i ddweud 'dyma fydd angen ei wneud nawr'. Roeddwn yn galaru ac yn ceisio bod yn gryf ar gyfer y plant.

"Roeddwn wedi fy rhoi mewn lle anodd ac i beidio troi'r drol," meddai wrth raglen Eye on Wales BBC Radio Wales.

Mae Ms Barker yn un o'r rhai sy'n rhoi tystiolaeth o flaen grŵp trawsbleidiol ar farwolaethau dramor.

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Andrew Rodick yn Delhi, India ym mis Ebrill 2014

Ar gyfartaledd mae rhwng 70 ac 80 o Brydeinwyr yn cael eu llofruddio dramor pob blwyddyn.

Nid yw'r ffigwr yn cynnwys pobl o Brydain sy'n byw dramor, na chwaith yn cynnwys marwolaethau amheus sydd ddim yn llofruddiaethau yn nhermau Llywodraeth y DU.

AS Brycheiniog a Sir Maesyfed, Chris Davies yw is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol gafodd ei sefydlu yn dilyn cyfarfod rhieni Kirsty Jones, gafodd ei threisio a'i llofruddio mewn hostel yng Ngwlad Thai ym mis Awst 2000.

"Mae'n rhaid i ni gael system ble mae modd cael y ffeithiau at deuluoedd cyn gynted â phosibl," meddai Mr Davies.

"Fe allai rhywun wneud hynny drwy gnocio ar ddrws, egluro wrth y teulu beth sy'n debygol o fod wedi digwydd ac wedyn dilyn hynny i fyny yn ddiweddarach.

"Ar brydiau rydym wedi gweld fod misoedd wedi mynd heibio heb i deuluoedd gael unrhyw wybodaeth, a dydy hynny ddim yn dderbyniol."

'Llofruddio'

Daeth Ms Barker i glywed am farwolaeth ei phartner wedi i ddau swyddog o Heddlu Dyfed Powys ymweld â'i chartref.

Dim ond ar ôl i BBC Cymru gysylltu â'r Swyddfa Dramor i ofyn am yr achos y cafodd Ms Barker yr adroddiad awtopsi a thocsicoleg terfynol.

Mae'r adroddiad yn datgan mai achos y farwolaeth oedd "gwenwyn pregabalin".

Cafwyd hyd i pregabalin - moddion sy'n trin epilepsi a phryder - ym mhoced trowsus Mr Rodick ar ôl darganfod ei gorff.

Mae Ms Barker wedi gwrthod derbyn y canfyddiadau, gan eu disgrifio fel "honiad" sydd ddim yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth yr awtopsi.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni gael system ble mae modd cael y ffeithiau at deuluoedd cyn gynted â phosibl," yn ôl Chris Davies

Daeth ymddiheuriad gan y Swyddfa Dramor am yr oedi yn rhannu'r adroddiad, a dywedodd llefarydd fod yr achos nawr ar ben.

Ychwanegodd Ms Barker: "Fe gafodd Andy ei lofruddio a does gan neb ddiddordeb mewn pam y buodd farw.

"Dwi'n teimlo fy mod wedi fy mradychu gan y Swyddfa Dramor."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Pan mae marwolaeth wedi digwydd mewn amgylchiadau treisgar fe fyddwn yn codi'r pwynt gyda'r awdurdodau lleol yn y wlad honno a gofyn am ddiweddariad cyson ar unrhyw ymchwiliad neu achos.

"Rydym yn croesawu adborth gan Brydeinwyr sydd wedi derbyn cymorth consylaidd, a byddwn yn defnyddio'r adborth i wella ein gwasanaethau ac i hyfforddi staff er mwyn darparu'r cymorth gorau posib."