'50 o swyddi' i fynd wrth i gwmni cabanau fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd ym Mhorthmadog wedi dweud bydd 50 o swyddi yn cael eu colli yn y dref ar ôl i gwmni sy'n adeiladu cabanau gwyliau fynd i'r wal.
Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths, bydd 50 o swyddi gyda chwmni Sovereign Park and Leisure Homes Limited o Coventry yn cael eu colli ar safle'r cwmni ar Ystâd Ddiwydiannol Penamser ym Mhorthmadog.
Bellach mae diddymwyr wedi'u penodi ers 9 Tachwedd gan y cwmni, sy'n adeiladu cabanau gwyliau ar gyfer cleientiaid preifat a masnachol.
Fe ddisgrifiodd Mr Griffiths y newyddion fel "ergyd enfawr i'r ardal."
Yn ôl John Lowe o gwmni diddymwyr FRP Advisory, mae "Sovereign Park and Leisure Homes Limited a Cambrian and Sovereign Holding Group wedi wynebu amodau masnach anodd mewn marchnad hynod gystadleuol".
"Fe arweiniodd hyn at broblemau ariannol sydd wedi gorfodi'r cwmni ymddiddymu. Byddwn nawr yn ceisio gwerthu asedau'r cwmni," meddai.
"Byddwn yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gwahanol, gan gynnwys Gwasanaeth Ail-dalu Diswyddaeth, er mwyn sicrhau fod y gweithwyr yn derbyn cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma."
Mae'r diddymwyr wedi cadarnhau fod y "mwyafrif" o'r swyddi sydd wedi'u colli ym Mhorthmadog.