Gyrrwr 'meddw a heb drwydded lawn' wrth y llyw ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest i farwolaeth dau gariad mewn gwrthdrawiad ar yr M4 nad oedd y gyrrwr wedi pasio ei brawf gyrru a'i fod yn feddw.
Bu farw Timothy Peter Grace, 31 oed, a Sarah-Jayne Thomas, 28 oed, ar eu ffordd adref i Abertawe, wedi diwrnod allan yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.
Roedd Mr Grace yn gyrru car BMW X5 oedd wedi ei fenthyg gan ei ffrind, ac roedd yn teithio ar gyflymder o 96mya pan gollodd reolaeth ar y cerbyd ger Port Talbot.
Dangosodd profion tocsicoleg yn ddiweddarach fod lefel yr alcohol yn ei waed ddwywaith yn uwch na'r hyn sy'n gyfreithlon.
Bu farw Miss Thomas yn y fan a'r lle. Cafodd Mr Grace ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'r diwrnod canlynol.
Fe wnaeth y crwner gofnodi achos y marwolaethau fel gwrthdrawiadau ffordd oedd wedi eu heffeithio gan alcohol.
Roedd Mr Grace, oedd yn lanhawr ffenestri, newydd ddechrau perthynas gyda Miss Thomas, oedd yn gweithio mewn siop trin gwallt o dan ei fflat yn Nhreboeth.
Clywodd y cwest fod Mr Grace wedi ei weld yn archebu dwy botel o win a choctels ym Mae Caerdydd o fewn 90 munud i'r gwrthdrawiad.
Dywedodd gweinydd yn Grosvenor Casino, Phillip Smith, lle bu'r ddau yn yfed, eu bod yn edrych yn feddw.
Yn ogystal, dywedodd ffrind i Mr Grace, Darren Davies, ei fod wedi derbyn galwad ffôn ganddo am 14:10, a'i fod yn swnio'n feddw.
'Colli rheolaeth'
Lai nag awr yn ddiweddarach, cafodd Mr Grave ei weld yn gyrru'r BMW ar gyflymder mawr.
Clywodd y cwest fod Mr Grace wedi colli rheolaeth ar y car ychydig wedi cyffordd 37.
Cafodd y cerbyd ei weld yn mynd tuag at y rhwystrau yng nghanol y draffordd cyn gwyro ar draws y tair lôn a sgidio ar y clawdd cyn taro'n erbyn coeden.
Dywedodd ymchwilydd gwrthrawiadau Heddlu De Cymru, PC Carlos Vaquerizo, mai hwn, mwy na thebyg, oedd y "gwrthdrawiad mwyaf catastroffig" iddo'i weld yn ystod ei yrfa.
Alcohol yn y gwaed
Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd Mr Grace sawl trallwysiad gwaed, a clywodd y cwest ei bod yn amhosib mesur faint o alcohol oedd yn ei waed ar adeg y gwrthdrawiad, ond dangosodd profion tocsicoleg fod y lefelau ddwyaith yn uwch na'r trothwy.
Roedd hefyd ar dabledi diazepam at iselder, allai fod wedi effeithio ar ei yrru.
Clywodd y cwest fod calon, arennau ac afu Mr Grace wedi eu rhoi i'w trawsblannu.
Roedd gan Mr Grace a Miss Thomas ddau blentyn yr un o berthnasau blaenorol.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, dywedodd teulu Miss Thomas ei bod yn fam gariadus i'w meibion, a chafodd Mr Grace ei ddisgrifio fel "tad da" i'w blant ef.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018