Bydd Cymru yn llai llewyrchus o ganlyniad i Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Reuters

Bydd Cymru yn llai llewyrchus o ganlyniad i'r cytundeb drafft Brexit, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones fod Cymru yn derbyn £600m y flwyddyn gan yr UE ac yn allforio 60% o'i chynnyrch i Ewrop.

Mynnodd ei bod hi'n bwysig nad oedd unrhyw ffiniau yn cael eu codi rhwng y marchnadoedd sy'n cael mwyaf o ddefnydd gan Gymru.

Mae Theresa May wedi ysgrifennu llythyr agored yn datgan fod y cytundeb yn arwain at "ddyfodol disglair" i Brydain, tra bod y cytundeb wedi ei gymeradwyo gan arweinwyr Ewropeaidd ddydd Sul.

Dywedodd Mr Jones wrth y BBC fod y cytundeb drafft yn well na dim cytundeb o gwbl, ond yn sicr yn waeth na'r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl.

"Yr hyn yr ydyn ni eisiau ei wneud yw sicrhau fod y farchnad Ewropeaidd, y farchnad bwysicaf i ni... ein bod ni ddim yn gweld ffiniau newydd yn cael eu creu rhyngom ni a'r marchnadoedd hynny.

"I mi dyma un o'r pethau gwirionaf y gallwn ni ei wneud," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi derbyn addewidion na fyddai Cymru yn colli allan ar un geiniog o'r £600m mae Cymru yn ei dderbyn gan yr UE ar hyn o bryd.

"Mae pobl yn dweud na ddylwn ni fod yn or-ddibynnol arno, ond y gwirionedd yw nad yw'r fath yna o arian yn ein meddiant."

'Anodd iawn'

Mae'n rhaid i San Steffan gymeradwyo'r cytundeb drafft hefyd, ac mae disgwyl i'r bleidlais honno ddigwydd ym mis Rhagfyr.

"Mae hi'n anodd iawn gweld sut gall y Prif Weinidog basio'r cytundeb yma drwy'r Senedd," meddai.

Yn ôl Mr Jones mae gan y Blaid Lafur "nifer o opsiynau" wrth symud ymlaen, gyda rhai yn galw am etholiad cyffredinol, rhai eisiau refferendwm arall a "lleiafrif bach" yn gefnogol o Brexit.

Dywedodd Ms May y bydd gadael yr UE blwyddyn nesaf yn "foment i adnewyddu a chymodi ar hyd Prydain".