Pro 14: Y Dreigiau 18-12 Caeredin
- Cyhoeddwyd
Roedd llawenydd mawr yng Nghasnewydd wrth i Ddreigiau Gwent sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o'r tymor wrth guro Caeredin o 18 pwynt i 12.
Roedd yr ugain munud cyntaf yn un cymharol dawel a dim ond un gôl gosb i'r Dreigiau o droed Tovey oedd yn gwahanu'r ddau dîm.
Ond yr oedd y tîm cartref yn lledu'r bêl yn gyson ac yn y diwedd torrodd Jordan Williams drwy amddiffyn Caeredin cyn pasio'r bêl i Rosser ar y 22 ac fe groesodd yntau'r gwyngalch gyda Tovey yn cicio'n gywir a rhoi deg pwynt i'r Dreigiau.
Bu hynny yn gyfrwng deffro Caeredin ac fe lwyddodd Fife i groesi am gais yn y gornel cyn hanner amser.
Daeth ail gais i Rosser ar ôl 54 munud a llwyddodd Tovey gyda chic gosb arall i roi'r Dreigiau ar ddeunaw pwynt.
Ond gyda chwarter awr ar ôl croesodd Van Der Walt i Gaeredin.
Bellach roedd yna chwe phwynt yn gwahanu'r ddau dîm ond daliodd y Dreigiau eu tir a sicrhau buddugoliaeth sydd yn eu codi o waelod adran B y Pro 14.
Daeth y fuddugoliaeth iddynt tra bod eu hyfforddwr Bernard Jackman wedi ei wahardd o'r stadiwm am iddo wneud sylwadau annerbyniol am y dyfarnwr yn eu gêm yn erbyn Gleision Caerdydd ym mis Hydref.