'Angen ystadegau cyflawn' am wrthfiotigau anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd
buwchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna "angen difrifol" am ystadegau cyflawn ynglŷn â defnydd meddyginiaethau gwrthfiotig mewn gwartheg a defaid, medd grŵp blaenllaw yn y diwydiant amaeth.

Dywedodd y Responsible Use of Medicines in Agriculture Alliance (RUMA) bod diffyg data yn golygu ei bod hi'n anodd mesur llwyddiant ffermwyr wrth leihau defnydd o'r cyffuriau.

Fel staff y gwasanaeth iechyd, mae amaethwyr a milfeddygon wedi bod yn ceisio torri 'nôl ar wrthfiotigau i osgoi'r bygythiad o glefydau'n datblygu sy'n medru eu gwrthsefyll.

Yn ôl Gwyn Jones, cadeirydd RUMA, fe fyddai ffigyrau cywir yn sicrhau bod ffermwyr yn cael "cydnabyddiaeth lawn" am eu hymdrechion.

Mae'r data diweddaraf, gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref gan Lywodraeth y DU, yn awgrymu bod gwerthiant meddyginiaethau gwrthfiotig ar gyfer anifeiliaid fferm wedi gostwng 40% ers 2013.

Roedd y ffigyrau'n cynnwys bron i holl gynhyrchwyr moch, dofednod ac adar hela'r wlad.

Ond roedd y sampl o ffermwyr biff, llaeth a defaid yn llawer llai.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai ffigyrau cywir yn sicrhau bod ffermwyr yn cael "cydnabyddiaeth lawn", yn ôl Gwyn Jones

"Mae 'na lawer iawn o ddarnau o ddata, ond dim un darlun cyflawn - a dyna ry'n ni ei angen," eglurodd Mr Jones.

Awgrymodd y dylai'r sectorau gwartheg a defaid ddysgu o gynllun ar-lein sydd wedi gwella'r ystadegau ar gyfer cynhyrchwyr cig moch yn aruthrol.

Cofnodi pob fferm

Er mwyn sicrhau statws Tractor Coch ar gyfer eu cig mae'n rhaid i ffermwyr moch ddiweddaru e-lyfr meddyginiaethau, a hynny'n sicrhau bod data ar gyfer bob ffarm yn cael ei gofnodi.

Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn cynnal cynllun peilot ar hyn o bryd gan ddefnyddio e-lyfr tebyg ar gyfer gwartheg biff a llaeth.

Mae'r rhan helaeth o ffermwyr Cymru yn cadw naill ai gwartheg neu ddefaid, neu'r ddau.

Dod o hyd i'r ffordd orau o fesur defnydd gwrthfiotigau ar ffermydd y wlad yw ffocws doethuriaeth Gwen Rees, milfeddyg o Lanelli sy'n astudio ym Mhrifysgol Bryste ar hyn o bryd.

"Heb ddeall yn iawn beth mae ffermwyr yn ei wneud gydag antibiotics, allwn ni ddim gwybod a oes angen gwneud newidiadau," meddai.

Mae ei hymchwil hi wedi awgrymu y gallai casglu data o gofnodion presgripsiwn milfeddygon gynnig "adlewyrchiad da a theg" o'r sefyllfa.

"Y prif obaith yw y gwnawn ni ddechrau llenwi'r bylchau yn y data," ychwanegodd.

"Mae ffermwyr yn ymwybodol iawn bod hyn yn bwnc pwysig iawn - maen nhw eisiau defnyddio eu meddyginiaethau yn gyfrifol ac mae angen i ni roi'r offer sydd eu hangen arnyn nhw i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae datblygiad heintiau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn cael eu hystyried yn un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd pobl ar draws y byd, gyda rhai'n rhybuddio y gallai arwain at 10 miliwn o farwolaethau erbyn 2050.

Rhybuddiodd Mr Jones ei bod hi'n annhebygol iawn y byddai unrhyw wrthfiotigau newydd sy'n cael eu datblygu yn y dyfodol yn cael eu cynnig i'r diwydiant amaeth.

"Mi fydd y rheini yn cael eu cadw i drin pobl, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar ôl y meddyginiaethau sydd gennym ni, fel nad oes 'na resistance yn datblygu i rheini."

"Ac wrth gwrs, os yw'r anifeiliaid yn iach ac angen llai o driniaeth, mae hynny'n golygu eu bod nhw'n fwy proffidiol hefyd."