Sargeant: Swyddog wedi clywed 'dau honiad o gamymddwyn'

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant yn Ysgrifennydd Cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Mae swyddog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gwest i farwolaeth Carl Sargeant ei fod wedi dod yn ymwybodol o ddau honiad o ymddygiad amhriodol yn erbyn y cyn-weinidog.

Dywedodd Matthew Greenough, oedd yn ymgynghorydd arbennig i'r Prif Weinidog Carwyn Jones, ei fod yn ymwybodol o honiadau yn erbyn Mr Sargeant yn 2016.

Yn eu plith roedd llythyr dienw i'r Prif Weinidog yn honni nad oedd Mr Sargeant "yn ffit i fod o gwmpas menywod".

Yn ogystal â'r llythyr dienw, dywedodd Mr Greenough bod y Prif Weinidog hefyd wedi rhoi gwybod iddo "am ddigwyddiad yn ymwneud â dynes".

Honiadau

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl colli ei swydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Roedd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol yn erbyn menywod - cyhuddiadau yr oedd yn eu gwadu.

Cyn ei ddiswyddo, clywodd y cwest yn Rhuthun fod trafodaethau wedi eu cynnal ym mis Hydref 2017 ynglŷn ag ad-drefnu posib i'r cabinet, gan gynnwys y posibiliad o gadw Mr Sargeant.

Yn ddiweddarach dywedodd Mr Greenough ei fod wedi derbyn galwad gan gyn-ysgrifennydd cyffredinol Llafur Cymru, David Hagendyk, ac mai dyna oedd y gwyn "go iawn" cyntaf yn erbyn Carl Sargeant.

Dywedodd fod Mr Hagendyk wedi dweud wrtho am honiadau fod Mr Sargeant wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ddwy ddynes y penwythnos blaenorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwest yn cael ei glywed gan y crwner John Gittins

Clywodd y cwest fod Matthew Greenough wedi siarad gyda'r ddwy ddynes - Miss A, a Miss B - ynglŷn â'u honiadau yn erbyn Mr Sargeant.

Yn ddiweddarach rhoddodd Mr Greenough wybod i Carwyn Jones, a ddywedodd y dylai'r ddwy wneud cwyn swyddogol neu ei roi ar bapur os oedd y mater am gael ei drin fel un ffurfiol.

Dywedodd Mr Greenough fod y digwyddiadau honedig yn dyddio'n ôl i haf 2017, a bod Mr Jones wedi cael gwybod amdanynt ar 26 Hydref.

Tua'r adeg honno, dywedodd Mr Greenough fod y Prif Weinidog wedi gofyn iddo gysylltu â thrydydd achwynydd, Miss C.

Dywedodd bod datganiad ysgrifenedig wedi ei wneud ar 1 Tachwedd gan Miss A, ac fe wnaeth y datganiad hwnnw hefyd gyfeirio at Miss B. Ni chafwyd cwyn ysgrifenedig gan Miss C.

Dywedodd Mr Greenough fod Mr Sargeant "wedi'i ysgwyd" yn ystod y cyfarfod gyda Carwyn Jones ar 3 Tachwedd pan gafodd wybod ei fod yn cael ei ddiswyddo.

Ychwanegodd fod y Prif Weinidog wedi cynnig cyngor i Mr Sargeant, ond dywedodd fod y sgwrs rhyngddynt y diwrnod hwnnw yn un "proffesiynol" yn hytrach na fel un rhwng ffrindiau.

Yn gynharach ddydd Mawrth dywedodd un o gyd-weinidogion Carl Sargeant wrth y cwest ei fod yn credu bod cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl am sbel.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd Ken Skates nad oedd Mr Sargeant wedi "dweud wrtha i yn blaen" fod ganddo gyflwr iechyd meddwl.

Ond dywedodd Mr Skates, AC De Clwyd, ei fod wedi gweithio hynny allan dros ei hun.

"Fel rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol fy hun, nes i ddod i gredu nad oedd iechyd emosiynol Carl yn iawn," meddai.

Ychwanegodd fod Mr Sargeant wedi dechrau gofyn "mwy a mwy" am ei brofiadau ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates ei fod wedi synhwyro nad oedd iechyd meddwl Carl Sargeant ar ei orau

Wedi hynny clywodd y cwest ddatganiad gan Steven Jones, cyn-ymgynghorydd arbennig a phennaeth y wasg i Carwyn Jones.

Dywedodd ei fod wedi siarad â Mr Sargeant wedi iddo gael ei ddiswyddo, a bod Mr Sargeant wedi dweud nad oedd yn gwybod beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ychwanegodd fod Mr Sargeant wedi dweud bod Carwyn Jones wedi dweud wrtho am "beidio mynd yn gyhoeddus" ynghylch yr honiadau, ac y byddai'n delio gyda nhw dros y penwythnos.

Y diwrnod wedi marwolaeth Mr Sargeant cafodd Steven Jones sgwrs â Ken Skates, a ddywedodd bod Carwyn Jones yn "gandryll" fod Mr Sargeant wedi sôn am yr honiadau.

Ond clywodd y cwest fod Mr Skates wedi herio cywirdeb datganiad Steven Jones.

'Person hyfryd'

Clywodd y cwest dystiolaeth hefyd gan Imelda Francombe, uwch-ysgrifennydd preifat i Carl Sargeant, a ddywedodd ei fod yn berson "hawdd i weithio gydag o".

Dywedodd Ms Francombe fod Mr Sargeant wedi dweud wrthi ddiwedd 2016 neu ddechrau 2017 ynglŷn â'i broblemau iechyd meddwl.

Yn ddiweddarach fe wnaeth hi siarad gyda'i rheolwr hithau, Peter Greening, a awgrymodd fod "'dyddiadur [Mr Sargeant] ychydig yn wag', neu rywbeth felly".

"Roeddwn i mewn cyfyng gyngor wedyn achos doeddwn i ddim eisiau torri'r ymddiriedaeth yna, ond hefyd doeddwn i ddim eisiau rhoi argraff o Carl allai gael ei gymryd yn negyddol," meddai.

Pan ofynnwyd iddi gan y crwner a oedd hi erioed wedi gweld tystiolaeth, neu glywed honiadau, o ymddygiad amhriodol gan Mr Sargeant, dywedodd Ms Francombe: "Yn bendant, na."

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Carl Sargeant gan gynnwys ei fab Jack a'i weddw Bernie yn cyrraedd y cwest ddydd Llun

Yn ddiweddarach dywedodd Mr Greening wrth y cwest ei fod yn cofio'r sgwrs gyda Ms Francombe, a'i fod yn "eithaf sicr" na ddefnyddiodd hi'r gair iselder wrth ddisgrifio iechyd Mr Sargeant.

Ond dywedodd ei fod wedi "cael yr argraff" ei bod yn cyfeirio at gyflwr iechyd meddwl, a'i fod wedyn wedi "newid y ffordd yr oedd yn ystyried dyddiadur Carl".

Dywedodd Mr Greening ei fod hefyd wedi dod yn ymwybodol ar 1 Tachwedd, ddeuddydd cyn yr ad-drefnu cabinet, mai Mr Sargeant oedd un o'r rheiny fyddai'n debygol o golli eu swyddi.

Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gymorth sy'n cael ei gynnig i weinidogion ar ôl iddyn nhw gael eu diswyddo, a bod "gwersi i'w dysgu o hynny".

Cafodd Mr Greening ei holi gan Leslie Thomas QC, sy'n cynrychioli'r teulu Sargeant, pam na wnaeth fwy o ymdrech i ganfod gwir gyflwr iechyd meddwl Mr Sargeant.

Dywedodd Mr Greening mai sgwrs fer oedd yr un a gafodd gyda Ms Francombe, ac nad oedd eisiau bradychu ei hymddiriedaeth hi.

Archwilio ffôn

Ar ail ddiwrnod y cwest, fe wnaeth y crwner hefyd gytuno y dylai cofnodion o alwadau ffôn tyst gael eu harchwilio.

Daeth hynny'n dilyn cais gan gwnsel ar ran y Prif Weinidog Carwyn Jones am gael edrych ar gofnodion ffôn Sophie Howe.

Roedd Ms Howe, oedd yn gyn-ymgynghorydd arbennig i Mr Sargeant, wedi rhoi tystiolaeth ddydd Llun ar ddiwrnod cyntaf y cwest.

Clywodd y cwest Ms Howe wedi derbyn galwad am tua 07:30 ar 7 Tachwedd, ond doedd dim cofnod o alwad o'r fath o rif Mr Sargeant.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Sophie Howe yn rhoi tystiolaeth i'r cwest ddydd Llun

Dywedodd Cathy McGahey QC ar ran y Prif Weinidog: "Mae tystiolaeth Ms Howe ddoe yn awgrymu ei fod e wedi ei ffonio, ond eto dyw'r ffôn heb ei ganfod."

Ychwanegodd: "Pam fod rhywun sydd heb ddod yn eu blaenau yn ffonio Mr Sargeant mor gynnar â hynny yn y bore?"

Dywedodd Ms McGahey ei bod hi'n "debygol iawn" fod yna ffôn ar goll yn rhywle.

Fe wnaeth y crwner hefyd gytuno i gais gan Leslie Thomas QC am gael clywed y cyfweliadau i'r wasg a wnaeth Carwyn Jones ar 6 Tachwedd.

Dywedodd Mr Thomas ei fod yn dystiolaeth berthnasol achos fe allai ddangos "beth oedd yn chwarae ar feddwl Mr Carl Sargeant ar fore'r 7fed".