Carl Sargeant wedi ymddiheuro i'w deulu mewn llythyr

  • Cyhoeddwyd
teulu sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Carl Sargeant gan gynnwys ei fab Jack a'i weddw Bernie yn cyrraedd y cwest ddydd Llun

Mae cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi clywed fod y cyn-weinidog wedi ysgrifennu llythyr at ei deulu yn "ymddiheuro am gymryd y ffordd hawdd allan".

Yn y neges, ychwanegodd Mr Sargeant ei fod yn teimlo ei fod wedi eu "gadael nhw i lawr".

Cafodd cyn-Aelod Cynulliad Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw yn ei gartref fis Tachwedd y llynedd, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Bernadette Sargeant, gweddw Mr Sargeant, fod ymhlith y rheiny fydd yn rhoi tystiolaeth yn y cwest.

Iselder

Cafodd Mr Sargeant, y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn dilyn honiadau o gamymddwyn amhriodol.

Roedd yn gwadu'r honiadau.

Ddydd Llun cafodd llythyr oedd wedi'i adael gan Mr Sargeant cyn ei farwolaeth ei ddarllen yn y cwest yn Rhuthun.

Roedd yn dweud: "I Bernie, Lucy, Jack a theulu/ffrindiau. Dwi'n ymddiheuro mod i wedi'ch gadael chi i lawr mor wael. Dydych chi ddim yn haeddu unrhyw ran o'r sylw niweidiol yma oherwydd fy ngweithredoedd.

"Rydw i wedi'ch gadael chi i lawr. Ond wedi dweud hynny, dwi'n eich caru chi mwy nag yr ydych chi'n ei wybod a dwi'n ymddiheuro mod i wedi cymryd y ffordd hawdd allan."

Gorffennodd y llythyr drwy ddweud "plîs wnewch chi faddau i mi".

Yn ddiweddarach ddydd Llun, dywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews wrth y cwest ei fod yn credu bod ymddygiad Mr Jones wedi bod yn "anghyfrifol" yn dilyn diswyddiad Mr Sargeant.

Ar ôl ad-drefnu'r cabinet ar 3 Tachwedd 2017, dywedodd Mr Andrews fod Mr Jones wedi rhoi cyfweliadau i'r wasg y dydd Llun canlynol wnaeth gael "effaith sylweddol" ar gyflwr meddwl Mr Sargeant.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant yn Ysgrifennydd Cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Dywedodd Mr Andrews fod y Prif Weinidog wedi bod yn "dyfalu" yn ystod y cyfweliadau, ond ni wnaeth ymhelaethu ymhellach.

Cyn clywed tystiolaeth Mr Andrews, fe bwysleisiodd y crwner John Gittins y byddai'n "barnu tystiolaeth" ac nid "pobl" wrth edrych ar amgylchiadau'r farwolaeth.

Wrth roi tystiolaeth i'r cwest dywedodd Dr David Morris, meddyg teulu Mr Sargeant yng Nghei Connah, fod profion yn 2012 wedi dangos fod gan Mr Sargeant "iselder gweddol ddifrifol".

Cafodd pryderon eu codi eto yn 2014 a 2016, pan gafodd Mr Sargeant ei roi ar wahanol fathau o gyffuriau gwrth-iselder, ond fe wnaeth ymgynghoriad yn ddiweddarach y flwyddyn honno awgrymu mai isel iawn oedd y risg y byddai'n hunan-niweidio.

Disgrifiad o’r llun,

Leighton Andrews yn cyrraedd y cwest ddydd Llun

Erbyn diwedd Tachwedd 2016 roedd Mr Sargeant yn dweud ei fod yn "ymdopi'n well yn emosiynol" a'i fod yn cysgu'n well, ac fe barhaodd i gymryd y feddyginiaeth yn ystod 2017.

Cytunodd Dr Morris â gosodiad gan Cathy McGahey QC, oedd yn cynrychioli'r Prif Weinidog, fod rhai pobl ag iselder yn medru parhau i weithio.

Ond wrth gael ei holi gan Leslie Thomas QC ar ran y teulu Sargeant, dywedodd Dr Morris fod rhai pobl hefyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn y gweithle, yn enwedig os nad oedd pethau'n mynd yn dda.

Ychwanegodd Mr Thomas mai ym mis Tachwedd 2016 oedd y tro diwethaf i Mr Sargeant gael ei weld gan feddyg ynghylch ei iselder, bron i flwyddyn cyn ei farwolaeth.

'Dyddiau du'

Clywodd y cwest hefyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, a ddaeth yn ffrindiau da gyda Carl Sargeant ar ôl treulio cyfnod yn gweithio fel ymgynghorydd arbennig iddo yn 2013.

Dywedodd Ms Howe ei bod yn ymwybodol fod ganddo iselder, a'i bod wedi teimlo yn ystod haf 2017 fod ei iechyd yn dechrau dirywio.

"Roedd e'n arfer dweud ei fod e'n cael dyddiau 'ci du' go iawn," meddai, gan ychwanegu ei fod yn teimlo "llawer o bwysau yn y gwaith".

Pan gafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo o'r cabinet fe gysylltodd â Ms Howe, gan ddweud nad oedd yn siŵr "beth i'w wneud".

Pan aeth hi i'w gasglu, dywedodd ei fod yn edrych yn "welw", a'i fod wedi dweud nad oedd yn gwybod beth oedd yr honiadau gafodd eu gwneud yn ei erbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Howe y byddai Carl Sargeant yn dweud wrthi "os oedd e wedi cael diwrnod gwael neu wythnos wael"

Dros y penwythnos hwnnw fe gadwodd hi mewn cysylltiad ag ef, ac fe ddywedodd fod y ffaith nad oedd yn gwybod beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn yn ei boenydio'n fawr.

"Roedd e'n dweud 'dwi mewn lle tywyll iawn'," meddai. "Roeddwn i'n bryderus iawn amdano."

Dywedodd Ms Howe bod hwyliau Mr Sargeant wedi gwella ar y dydd Sul, cyn gwaethygu drannoeth pan wnaeth Mr Jones y cyfweliadau, a phan wnaeth newyddiadurwr alw heibio'i dŷ.

Siaradodd y ddau eto fore ddydd Mawrth, a dywedodd Ms Howe wrth Mr Sargeant am gysylltu gyda'r blaid Lafur i ofyn beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd Ms Howe wrth y cwest ei bod hi'n credu mai hi oedd y person olaf i siarad ag ef cyn ei farwolaeth.

Ychydig yn ddiweddarach fe anfonodd Mr Sargeant neges wrth grŵp yr oedd hi'n aelod ohono yn dweud "caru chi i gyd".

Pan ddechreuodd hi feddwl am ystyr y neges honno dywedodd ei bod wedi dechrau "panicio", cyn ffonio tŷ Mr Sargeant a chael gwybod bod parafeddygon eisoes wedi'u galw.

Mwy o dystion

Ar ddechrau'r cwest dywedodd Mr Gittings na fyddai honiadau hanesyddol o fwlio yn chwarae rhan yn y cwest, gan fod ymchwiliadau eraill yn mynd i edrych ar y materion hynny.

Ychwanegodd y byddai'n cynnal cwest "llawn a theg", ac na fyddai'n gadael i'r "cyfryngau, gwleidyddiaeth na phersonoliaeth" ddylanwadu ar bethau.

Mae disgwyl y bydd Mr Jones yn cael ei alw i roi tystiolaeth ddydd Mercher, gyda Lesley Griffiths a Ken Skates, sy'n aelodau o'r cabinet, hefyd yn ymddangos yn y gwrandawiad a fydd yn para pum diwrnod.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement y BBC fore Sul dywedodd Mr Jones ei fod yn "croesawu'r cyfle" i roi ei ochr ef o'r stori.

Bydd mab Carl Sargeant, Jack, wnaeth olynu ei dad fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy, hefyd yn rhoi tystiolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bernie Sargeant yn rhoi tystiolaeth yn ystod y cwest

Eisoes mae Mr Gittins wedi dweud fod gwrandawiad blaenorol wedi clywed fod Mr Sargeant wedi ei grogi "gyda'r gred ei fod wedi ceisio hunan anafu".

Dywedodd y crwner y bydd y cwest yn "ystyried y camau gafodd eu cymryd gan y Cynulliad o ran cyflwr ei iechyd meddwl cyn ei farwolaeth".

Mae teulu Mr Sargeant yn mynnu na chafodd y cyn-weinidog wybod manylion yr honiadau yn ei erbyn ac felly nid oedd yn gallu amddiffyn ei hun.

Bydd ymchwiliad annibynnol i'r modd y gwnaeth Mr Jones gael gwared â Mr Sargeant yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth yr Uchel Lys roi caniatâd i'r teulu herio'r ffordd y mae ymchwiliad i'w ddiswyddiad yn cael ei gynnal.