Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Barrow 0-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Rob LaintonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Rob Lainton arbed yn dda yn hwyr yn gêm wrth i John Rooney fynd yn agos gyda chic rydd i Barrow

Mae Wrecsam yn parhau yn y trydydd safle yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr wedi gem ddi-sgor oddi cartref yn Barrow nos Fawrth.

Mewn gem di fflach heb fawr o gyfleoedd at gol fe gafodd y gwynt cryf y gorau o'r ddau dîm.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd hwyr i gipio'r tri phwynt, fe aeth Paul Rutherford yn agos i sgorio i Wrecsam a gorfodi Joel Dixon i arbed yn dda yn y gôl i Barrow.

Fuodd bron i John Rooney sgorio'n hwyr yn y gêm i Barrow, ond fe gafodd ei ergyd o gic rydd ei arbed gan Rob Lainton yn y gôl i Wrecsam.