‘Cymuned a haelioni’: Nadolig Cerys Matthews
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores a'r ddarlledwraig Cerys Matthews yn perfformio'n fyw am y tro cynta' mewn bron i bum mlynedd dros y penwythnos, mewn cynhyrchiad arbennig yng nghanolfan Pontio, Bangor o waith Dylan Thomas.
Cerys sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y sioe A Child's Christmas, Poems and Tiger Eggs i gydfynd â geiriau Dylan Thomas a bale gan Ballet Cymru.
Bu Cymru Fyw'n siarad â Cerys am ei hatgofion hi o'r Nadolig fel plentyn yng Nghymru ac am bwysigrwydd y Nadolig iddi erbyn hyn.
Dw i wastad wedi mwynhau Nadolig. Mae'r tywydd yn oer, yn wlyb ac yn dywyll ond mae meddwl am y 'Dolig yn gwneud i chi deimlo'n gynnes. Mae'n agosáu chi at bobl sy' falle ddim o gwmpas rhagor - mae'n adeg nostalgic iawn o'r flwyddyn.
Mae Nadolig i fi ynglŷn â chwmni teulu a ffrindiau. Pan o'n i'n ifanc, 'oedd y teulu i gyd arfer chwarae carolau ar y piano a bydde'r cenhedlaethau i gyd yn agosáu ac yn gwneud stŵr ofnadwy. 'Oedd bach o deimlad gung-ho i'r holl beth.
'Oedd Nadolig yn tŷ ni wastad yn eitha' traddodiadol - bwyta gormod, chwarae Bob Dylan a chynnau tân. 'Oedd lot o fiwsig ac oedden ni wastad yn edrych ar The Wizard of Oz - ond nawr mae'r traddodiad wedi newid a dw i'n gwylio National Lampoon's Christmas Vacation. Ti'n adnabod y cymeriadau i gyd ynddo - pawb yn trio gwneud Nadolig yn berffaith ond 'dydyn ni fel pobl ddim yn berffaith.
Yr hen ganeuon Nadoligaidd
Mae repertoire Nadolig yn wych - mae rhywbeth comforting am ddod yn ôl at y caneuon ar ôl cael brêc o flwyddyn ac edrych ar hanes yr hen ganeuon. Mae pawb yn y gwledydd Cristnogol ar draws y byd yn adnabod y gân Ffa la la la la (Nos Galan/Deck the Halls) - a chân Gymraeg yw hi!
Mae fy rhieni yn hoff iawn o gerddoriaeth ac 'oedd chwaeth da iawn ganddynt. Pan 'o'n i'n ifanc 'o'n i'n clywed cerddoriaeth glasurol, jazz, blues, pop. Dw i'n ddiolchgar iawn bod chwaeth eang iawn gyda nhw.
Nadolig yr 'home brew'
Mae lot o alcohol yn ein Nadoligau ni, fel yn y stori A Child's Christmas in Wales gyda Aunt Hannah sy'n yfed gormod o rum a sieri.
Mae un Nadolig sy'n standout - y flwyddyn gatho' ni home brew Sir Benfro. 'Oedd e'n hen, hen rysait oedd cefnither dad wedi rhoi i ni ac roedd e mor gryf ein bod wedi rhedeg mas o fwcedi achos 'oedd pawb yn sâl.
Y teimlad o ryfeddod
Dw i'n ffan mawr o A Child's Christmas in Wales. Mae Dylan Thomas wedi gallu distyllu'r teimladau yna, y teimlad o ryfeddod 'na pan chi'n ifanc ynglŷn â Nadolig a'r syniad o gymuned a pherthyn. Roedd e mor glyfar fel ysgrifennwr ac artist.
Falle dyw nhw ddim yn dathlu'r Nadolig nac yn byw yng Nghymru ond mae'r teimladau o fod mewn cymuned ac o ddathlu 'na yn rhywbeth mae pawb yn gallu adnabod. Dyna be' sy'n 'neud e mor bwerus.
Dw i wedi cyfansoddi miwsig glasurol ar gyfer A Child's Christmas, Poems and Tiger Eggs, sy'n debyg iawn i soundtrack ffilm. Mae Catrin Finch yn chwarae'r delyn ac mae rhai o chwaraewyr gorau y byd clasurol yn chwarae ar y darn.
Dyma'r gwaith gorau dw i erioed wedi'i wneud.
Dw i'n adrodd Fern Hill, Do not go gentle into that good night a Hunchback in the Park yn fyw gyda'r cerddor jazz Arun Ghosh. Mae Ballet Cymru yn dawnsio hefyd. Dw i'n ffan mor fawr o waith Dylan Thomas a dw i'n ffan o Ballet Cymru achos mae'n ffordd mor ffres o edrych ar bale.
Dw i bron â llefain pan dw i'n gwylio'r perfformiad achos mae mor bwerus fel darn ac hefyd i fod yn ran o rhywbeth mor gymunedol a phwerus. Mae'n anhygoel.
Pwysigrwydd cymuned
Erbyn hyn mae Nadolig yn golygu coginio lot. 'Da ni ddim yn bwyta cig rhagor felly lot o Yorkshire pudding, stwffin, ffa, tato rost a phannas - lot fawr o fwyd ond dim byd oedd yn fyw. 'Ni wedi stopio bwyta cig oherwydd yr amgylchedd ac am ein bod yn erbyn mass production a ffermydd anferth America. Mae hynny wedi newid y Nadolig ond mae'r gweddill yr un peth.
Mae'n open house yn tŷ ni - os oes pobl ar ben eu hunain yn y gymuned, maen nhw'n dod draw. Ni'n chwarae cwisys a thynnu cracyrs.
Dyna yw pwysigrwydd Nadolig i fi: cymuned a haelioni.