Tri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad A497 ger Porthmadog

  • Cyhoeddwyd
A497Ffynhonnell y llun, Google

Mae tri o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a char ar yr A497 ger Porthmadog.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 07:10 fore Gwener.

Cafodd tri ambiwlans eu gyrru i'r gwrthdrawiad a chafodd tri o bobl eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae'r lôn bellach ar agor.

Mae cwmni bysiau Arriva wedi cadarnhau "fod gwrthdrawiad wedi bod ar fws rhif 3 fore Gwener".

Dywedodd y cwmni eu bod yn adolygu camerâu cylch cyfyng, ond nad oedden nhw am wneud sylw pellach.